Daeargryn Moroco: Criwiau tân o Gymru wedi eu hanfon i achub pobl
Cyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod pedwar o'u haelodau wedi ymuno â dau aelod o Wasanaeth Tân y De er mwyn cynothwyo yn yr ymdrechion achub ym Moroco.
Mae'r daeargryn a darodd nos Wener wedi lladd mwy na 2,000 o bobl.
Mae'r diffoddwyr yn gwasanaethu ar ran Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU. Mae 62 o swyddogion yn aelodau o'r tîm hwnnw ac yn cynorthwyo yn yr ymdrechion i achub bobl.
Wrth siarad ym Moroco, dywedodd Pennaeth Rhanbarth y De, Steven Davies: "Rydyn ni wedi dod ar draws amodau heriol iawn, yn ogystal â gorfod teithio’n bell. Ar ôl cyfarfod â’r tîm lleol, rydyn ni’n teithio dwy neu dair awr i ffwrdd i bentref anghysbell, gan wthio trwy unrhyw rwystrau ar hyd y ffordd i weld a ydyn ni’n gallu hwyluso achub.
"Byddwn yn parhau â’n gwaith chwilio ac achub nes bydd yr awdurdodau lleol yn barnu bod y cyfnod achub ar ben. Ar hyn o bryd, ein blaenoriaeth yw ceisio dod o hyd i fywyd y gellir ei achub."
Y Swyddfa Dramor ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd wedi anfon y diffoddwyr tân i'r wlad. Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor James Cleverly ei fod yn anfon cefnogaeth frys i Foroco.
"Rwy'n parhau i fod mewn cysylltiad â'r Gweinidog Tramor Bourita ac yn cydymdeimlo'n ddwys â phobl Moroco wedi'r digwyddiad trasig hwn,” meddai.
Dyma'r trydydd tro yn 2023 i swyddogion tân o'r de a'r canolbarth a'r gorllewin gael eu hanfon i achub pobl wedi trychineb. Fis Chwefror fe fu swyddogion yn cynorthwyo yn Nhwrci wedi daeargryn yno. Ym mis Mawrth, fe fu aelodau yn achub bobl wedi seiclon ym Malawi.