Newyddion S4C

Beth ydy'r cysylltiad rhwng LALIGA a Chlwb Pêl-droed Llanfairpwll?

13/09/2023
CPD Llanfairpwll FC x LALIGA Launch

Bydd LALIGA, sef y gynghrair bêl-droed yn Sbaen, yn cydweithio gyda Chlwb Pêl-droed Llanfairpwll ar Ynys Môn. 

Daeth cyhoeddiad mai LALIGA fydd y partner swyddogol a fydd yn ymddangos ar flaen crysau cartref ac oddi cartref y clwb y tymor hwn.

Mae gan Glwb Pêl-droed Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yr enw hiraf yn y byd pêl-droed, ac fe fydd yn dathlu ei benblwydd yn 125 y flwyddyn nesaf.  

Bydd y bartneriaeth yn dod i rym ar ddechrau tymor 2023/24, ac yn rhan ohoni, bydd logo newydd LALIGA yn cael ei ddangos ar flaen crysau cartref ac oddi cartref y clwb. 

​​​​​​

Mae'r clwb ar hyn o bryd yn chwarae yng nghynghrair Adran Un Arfordir Gorllewin Gogledd Cymru.

Mae'r pentref hefyd wedi derbyn arwydd unigryw newydd ar gyfer y gymuned er mwyn dathlu'r bartneriaeth, gyda'r pum 'Ll' yn yr enw hir yn cael ei newid i adlewyrchu logo newydd LALIGA.

Mae LALIGA ymysg y cynghreiriau pêl-droed mwyaf poblogaidd yn y byd, gyda mwy na 200 miliwn o ddilynwyr ar hyd 16 o blatfformau cyfryngau cymdeithasol gwahanol.

Image
CPD Llanfairpwll
CPD Llanfairpwll yn gwisgo'r crysau gyda logo LALIGA arnynt.

Dywedodd cadeirydd CPD Llanfairpwll Samantha Jones-Smith: "Mae hon yn bartneriaeth anhygoel i ni. Nid yn unig y mae hi'r bartneriaeth fwyaf gyffrous erioed i'r clwb, ond mae hefyd yn ein galluogi ni i wella ar ac oddi ar y cae."

Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr LaLiga yn y DU ac Iwerddon, Keegan Pierce: "Rydym yn angerddol iawn am ledaenu ein neges 'Pwer ein Pêl-droed' ar draws y byd. Mae'r bartneriaeth yma yn ffordd wych i ddangos ein hunaniaeth newydd 'LL' mewn ffordd greadigol, sydd hefyd yn ein galluogi ni i ehangu ar ein cefnogaeth ar lawr gwlad ar hyd y DU."

'Mor gyffrous'

Yn ôl rheolwr y clwb, Gwyndaf Hughes, mae'r bartneriaeth yn "dod â rhagor o broffesiynoldeb i'n tîm ni, a dwi'n gwybod fod yr hogiau mor gyffrous i wisgo ein cit newydd ni gyda balchder ddydd Sadwrn a thrwy gydol y tymor hefyd."

Mae gan brif sgoriwr y clwb Marquis Holland obeithion mawr am wisgo'r crys hefyd. 

"Bydd chwarae gyda LALIGA ar draws ein crysau yn sicr yn hwb ychwanegol i ni'r tymor hwn. Rydym ni'n barod yn gwylio llawer iawn mwy o bêl-droed Sbaenaidd ac yn edrych ymlaen at ddysgu rhywbeth gan fawrion fel Lewandowski, Griezmann a Bellingham!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.