Patrolau heddlu i amddiffyn morloi Sir Benfro wedi adroddiadau fod pobl yn taflu cerrig atyn nhw
Mae mwy o batrolau heddlu’n cael eu cynnal mewn ardal boblogaidd yn Sir Benfro i helpu i amddiffyn morloi wedi i bobl daflu cerrig atyn nhw.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu Dyfed-Powys eu bod am ymweld â Phwll y Wrach yn rheolaidd i sicrhau bod y morloi yn cael llonydd.
Mae'r cam yn dilyn adroddiadau bod cerrig wedi cael eu taflu mewn ardal lle mae morloi bach yn ymgynnull.
Mae llawer o forloi benywaidd wedi eu gweld yn ac o amgylch y Pwll yr wythnos hon, a gwelwyd morlo ifanc marw yn arnofio yno.
Dywedodd PC Roger Jones, o Heddlu Dyfed-Powys a eiliwyd i Gyfoeth Naturiol Cymru fod ganddyn nhw “bryderon cynyddol am les y morloi” sy'n defnyddio'r ardal i fridio a chael rhai bach ym Mhwll y Wrach.
'Trosedd'
"Rydym yn annog pobl i wrando ar ein cais i gadw draw o'r ardal i roi'r lle a'r amser sydd eu hangen ar forloi,” meddai PC Roger Jones.
“Gallai mynd yn rhy agos at y morloi eu dychryn a'u tarfu a chofiwch, mae morloi wedi’u diogelu, ac mae'n drosedd eu niweidio, eu lladd neu eu tynnu o'u cynefin naturiol yn fwriadol.
"Byddwn yn cynnal patrolau ychwanegol i ddiogelu'r morloi ac rwy'n annog pobl i roi gwybod i'r heddlu am unrhyw bryderon sydd ganddynt drwy ffonio 101 neu i adrodd ar-lein a dilyn y cyngor ar beth i'w wneud os ydych yn gweld morloi."
Mae Awdurdod Parc Arfordir Penfro wedi rhoi arwyddion dros dro mewn rhai lleoliadau i godi ymwybyddiaeth o'r mater gyda phobl nad ydynt yn ymwybodol bod yr ardal yn boblogaidd gyda morloi.
Os ydych chi'n dyst i forloi yn cael eu haflonyddu neu eu camdrin, ffoniwch yr heddlu ar 101, meddai’r heddlu.
Os ydych chi'n credu bod morlo mewn trafferth, ffoniwch Achub Bywyd Morol Cymru ar 07970 285086 neu'r RSPCA ar 0300 1234 999.