Newyddion S4C

Cefnogwyr yn heidio i Bordeaux wrth i Gatland bryderu y gallai Ffiji ‘gau’r drws’ ar ei yrfa â Chymru

10/09/2023

Cefnogwyr yn heidio i Bordeaux wrth i Gatland bryderu y gallai Ffiji ‘gau’r drws’ ar ei yrfa â Chymru

Mae cefnogwyr Cymru wedi heidio i ddinas Bordeaux yn ne orllewin Ffrainc ar gyfer gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn Ffiji nos Sul.

Mae Cymru a Ffiji wedi cyfarfod ym mhob un o’r pum cystadleuaeth ddiwethaf.

Yn gyfan gwbl, mae Cymru wedi ennill 10 allan o’r 12 gêm rhwng y ddwy wlad.

Ond mae’r atgofion yn dal yn fyw yn y cof pan gollodd Cymru yn erbyn Ffiji yn Nantes yn 2007 gan daro Cymru allan o’r gystadleuaeth. 

Yn sgil hynny fe gollodd yr hyfforddwr Gareth Jenkins ei swydd gyda 12 mlynedd o dan arweinyddiaeth Warren Gatland yn dilyn.

Wrth ysgrifennu yn y Telegraph cyn y gêm dywedodd Warren Gatland bod ei enw da fel hyfforddwr Cymru yn y fantol wrth iddyn nhw baratoi i herio Ffiji.

“Fe wnaeth buddugoliaeth Ffiji dros Gymru yng Nghwpan y Byd 2007 yn Ffrainc i guro tîm Gareth Jenkins agor y drws i mi gymryd yr awenau ychydig fisoedd yn ddiweddarach,” meddai.

“Gobeithio nad ydyn nhw'n gyfrifol am gau'r drws i mi hefyd 16 mlynedd yn ddiweddarach!”

Ychwanegodd: “Mae pobl wedi gofyn a ydi fy enw da fel hyfforddwr Cymru yn y fantol wrth i ni wynebu Ffiji.

“Yr ateb ydi bod fy enw da yn y fantol drwy’r amser.

“Dyna pam wyt ti’n cymryd rhan mewn chwaraeon proffesiynol. Rwyt ti eisiau cael dy herio. Rydw i’n caru’r peth.”

Y cefndir

Ffiji yw prif ddetholion y grŵp ac yn uwch yn rhestr y byd na Chymru ag Awstralia. Georgia a Phortiwgal yw gweddill y timau yng ngrŵp C.

Dim ond dwy allan o’r 10 gêm ddiwethaf mae Cymru wedi eu hennill ac mae Ffiji yn llawn hyder wedi curo Lloegr yn Twickenham fis diwethaf.

Mae gan Gymru garfan sy’n gymysg o brofiad ac ieuenctid ac o dan gapteniaeth y blaenasgellwr Jac Morgan, yn croesawu nôl Taulupe Faletau wrth ei ochr yn safle’r wythwr.

Dyma’r pedwerydd tro i Gatland arwain Cymru mewn Cwpan y Byd ac mae wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ddwywaith a’r chwarteri unwaith.

Fe ddaeth ei gyfnod cyntaf i ben ar ddiwedd cwpan y Byd yn Siapan yn 2019 cyn iddo gael ei benodi eto ar ôl i Wayne Pivac golli ei swydd.

Mae ardal Bordeaux yn enwog am ei winllannoedd ond ai gwin coch neu win gwyn fydd yn blasu orau nos Sul.

Mae’r gêm yn fyw ar S4C nos Sul am 19:15 gyda’r gic gyntaf am 20:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.