Newyddion S4C

Ceidwadwyr Cymru eisiau gorfodi pleidlais olaf ar y terfyn cyflymder 20mya

Natasha Asghar ac arwydd 20mya

Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu gorfodi pleidlais arall ar derfyn cyflymder 20mya Cymru ddydd Mercher.

Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya ledled y wlad wrth i'r rhan fwyaf o ffyrdd preswyl sydd â therfyn cyflymder o 30mya newid i 20mya ddiwrnod yr wythnos nesaf.

Bydd y cynnig yn y Senedd ddydd Mercher yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r ddeddf a fydd yn dod i rym ar ddydd Sul 17 Medi.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar drafnidiaeth Natasha Asghar bod gwrthwynebiad y cyhoedd “yn fwy amlwg” wrth i’r dyddiad agosáu.

Fe fydd y cynllun yn costio £33m ac yn arafu'r gwasanaethau brys ac yn peryglu swyddi, meddai.

“Yr wythnos nesaf fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn cyflwyno'r terfyn 20mya,” meddai.

“Mae’n bryd i Lafur a Phlaid Cymru wrando ar eu hetholwyr a gwneud yr un fath.”

‘Tystiolaeth yn glir’

Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi amddiffyn y newid yr wythnos hon gan gyfeirio at esiampl Sbaen.

Bydd Cymru yn dilyn dull tebyg i’r un a gymerwyd yn Sbaen lle newidiwyd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd trefol i 30km yr awr yn 2019.

Ers hynny, mae Sbaen wedi nodi 20% yn llai o farwolaethau ar ffyrdd trefol, ac mae marwolaethau wedi gostwng 34% ar gyfer beicwyr a 24% ar gyfer cerddwyr.

“Mae lleihau cyflymderau nid yn unig yn achub bywydau; mae’n helpu i adeiladu cymunedau mwy diogel i bawb, gan gynnwys gyrwyr – gan greu lleoedd gwell i fyw ein bywydau,” meddai Mark Drakeford.

"Bydd yn helpu i wneud ein strydoedd yn dawelach, gan leihau llygredd sŵn, a bydd cyflymderau arafach hefyd yn rhoi hyder i fwy o bobl feicio a cherdded o amgylch eu hardaloedd lleol gan annog plant i chwarae yn yr awyr agored.

“Mae tystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir – mae lleihau terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.