Cannoedd wedi marw mewn daeargryn nerthol yn Moroco
Cannoedd wedi marw mewn daeargryn nerthol yn Moroco
Mae dros 1,000 o bobl wedi marw yn dilyn daeargryn nerthol yn Moroco.
Dywedodd llywodraeth y wlad fod o leiaf 1,000 o bobl wedi marw yn sgil y daeargryn oedd yn mesur 6.8 ar raddfa Richter ym mynyddoedd Atlas i’r de-orllewin o ddinas Marrakesh am tua 23.00 amser lleol nos Wener.
Roedd ôl-gryniad o 4.9 tua 20 munud yn ddiweddarach.
Bu farw pobl yn ninas hanesyddol Marrakesh ac mewn nifer o ardaloedd i’r de.
Mae nifer o adeiladau wedi dymchwel yn ardal hen ddinas Marrakesh, sy'n un o safloedd treftadaeth y byd, ac mae pobl wedi bod yn aros allan yn yr awyr agored.
Yn ôl awdurdodau’r wlad mae cannoedd o bobl hefyd wedi eu dal o dan rwbel yr adeiladau.
'Mi o'dd y daeargryn yn syfrdanol, pawb yn sgrechian.'@bethanrhys oedd yn Marrakesh pan darodd y daeargryn neithiwr. pic.twitter.com/ldSOlOCoKU
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) September 9, 2023
Fe darodd y daeargryn mewn ardal anghysbell o fynyddoedd Atlas ac mae pryderon nad yw’r adeiladau syml yno wedi goroesi a bydd yn cymryd tipyn o amser i gyrraedd y bobl yno.
Mae Jane Felix-Richards o Gaerdydd ar wyliau yn Marrakesh gyda’i theulu ac mae wedi disgrifio'r hyn ddigwyddodd.
Dywedodd: “Neithiwr, roedden yn eistedd yn y bar tan 11 o’r gloch y nos pan darodd y daeargryn.
“Y sŵn o’dd y peth cynta i daro ni, ro’dd e mor swnllyd, mor ddwfn ag o’n i’n meddwl bod bom wedi mynd off, a bod y to yn mynd i ddisgyn lawr.
“Ro’dd y chandeliers yn swingio, ro’dd plastr yn dod oddi ar y waliau, gwydrau yn smasho, gweiddais ar y teulu i redeg."
Llun: Wochit