Newyddion S4C

Neuadd Dewi Sant i gau ar unwaith i gynnal archwiliadau RAAC

07/09/2023
S4C

Bydd Neuadd Dewi Sant yn cau ar unwaith i'r cyhoedd er mwyn cynnal archwiliadau ychwanegol ar y paneli Concrid Awyrog Awtoclafedig Dur (RAAC) yn yr adeilad.

Datgelodd Newyddion S4C ddydd Mawrth fod Cyngor Caerdydd wedi gweithredu camau ers dros 18 mis i sicrhau fod Neuadd Dewi Sant "yn parhau yn ddiogel yn y tymor byr" ar ôl i goncrit RAAC gael ei ddarganfod ar do'r adeilad.

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Cyngor Caerdydd fod y penderfyniad i gau yn dod wedi cyngor newydd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yn dilyn trafodaethau pellach gyda pheirianwyr strwythurol annibynnol a benodwyd gan y Cyngor.

Mae disgwyl i’r adeilad fod ar gau am o leiaf bedair wythnos.

Mae'r cyngor wedi bod yn ymwybodol o RAAC yn Neuadd Dewi Sant a'r angen i'w reoli o safbwynt iechyd a diogelwch ers 2021.

Dywedodd y cyngor eu bod wedi dilyn canllawiau a chyngor y llywodraeth i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel.

Mae strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch wedi bod ar waith yn y lleoliad am y 18 mis diwethaf. Roedd hyn yn cynnwys archwiliadau rheolaidd gan beirianwyr strwythurol annibynnol gydag arbenigedd RAAC penodol medd y cyngor.

Ychwanegodd y cyngor na godwyd unrhyw faterion am gyflwr RAAC yn yr adeilad dros y cyfnod hwn ac nid oedd tystiolaeth o ddirywiad - ac mae'r sefyllfa yma'n parhau.

Ychwanegodd Cyngor Caerdydd y bydd peirianwyr strwythurol, sy'n arbenigwyr RAAC, yn gwneud profion newydd ar baneli RAAC yn yr adeilad.

“Rydym yn disgwyl y gallai'r weithdrefn hon gymryd o leiaf 4 wythnos, a byddwn yn ceisio ailagor y Neuadd cyn gynted â phosibl, yn dibynnu ar unrhyw gamau y gallai fod eu hangen neu na fydd eu hangen,” meddai’r datganiad.

‘Ymddiheuro’

Roedd nosweithiau a chyngherddau wedi eu trefnu gan sêr fel Joe Calzaghe, Sir Ranulph Finnes, Alfie Bowe, Daniel O'Donnell a Beverley Night ar gyfer yr wythnosau nesaf.

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymddiheuro am achosi anghyfleustra a siom i gwsmeriaid.

Ychwanegodd: “Nid oes angen i gwsmeriaid gysylltu â Neuadd Dewi Sant, byddwn yn cysylltu â’r holl ddeiliaid tocynnau am yr opsiynau sydd ar gael i chi unwaith y byddwn wedi siarad â hyrwyddwr y sioeau yr effeithir arnynt. 

“Byddem yn ddiolchgar pe gallai cwsmeriaid roi'r amser i ni ymgymryd â'r gwaith hwn fel y gallwn ddod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl am eich tocyn / digwyddiad wedi'i ganslo.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.