Newyddion S4C

Un o brif chwaraewyr Ffiji allan o Gwpan Rygbi'r Byd

06/09/2023
Caleb Muntz - Fiji

Mae Ffiji wedi colli un o'u prif chwaraewyr i anaf cyn eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd yn erbyn Cymru.

Mae’r maswr Caleb Muntz wedi gael ei ddiystyru o’r twrnamaint oherwydd anaf i’w ben-glin.

Fe ddioddefodd Muntz, 23, yr anaf yn ystod sesiwn ymarfer ddydd Llun.

Dyweodd Prif Hyfforddwr Ffiji, Simon Raiwalui: “Mae’n hynod siomedig i ni fel grŵp.

"Rydyn ni'n teimlo drosto fel dyn ifanc."

Ychwanegodd Raiwalui: "Fe fydd yn colli cyfle mor agos at Gwpan Rygbi'r Byd."

Fe wnaeth Muntz chwarae'r tro cyntaf i Ffiji yn erbyn Tonga ym mis Gorffennaf.

Enillodd ei bedwerydd cap yn eu buddugoliaeth ddiweddar o 30-22 yn erbyn Lloegr yn Twickenham.

Llwyddodd i gicio 15 pwynt yn ystod y gêm baratodaol hon yng Nghyfres yr Haf.

Dywedodd Raiwalui fod yna nifer o chwaraewyr y tu allan i'r grŵp presennol y maen nhw'n edrych arnynt fel opsiynau i gymryd lle Muntz.

Mae disgwyl penderfyniad dros y dyddiau nesaf ar bwy fydd yn cymryd ei le. 

Ychwanegodd y prif hyfforddwr: "Mae gennym ni 33 o chwaraewyr ac mae gennym ni'r hyder mwyaf ynddyn nhw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.