22 mlynedd o garchar i gyn arweinydd The Proud Boys wedi anhrefn y Capitol
Mae cyn arweinydd grŵp The Proud Boys wedi’i garcharu am 22 mlynedd am ei rôl yn anhrefn adeilad y Capitol yn Washington yn 2021.
Dyma'r ddedfryd hiraf i un o arweinyddion y terfysg.
Roedd Enrique Tarrio, 39 oed, wedi ei gael yn euog fis Mai o “gynllwynio gwrthryfelgar”, sef cyhuddiad o gyfnod Rhyfel Cartref UDA, yn ogystal â cyhuddiadau eraill.
Nid oedd Enrique Tarrio yn bresennol yn ystod yr anhrefn ar 6 Ionawr 2021, ond bu'n cynorthwyo yn nhrefniadau The Proud Boys cyn y terfysg.
Rhuthrodd miloedd o gefnogwyr Donald Trump i mewn i adeilad y Capitol wedi i'r cyn arlywydd golli'r etholiad arlywyddol yn 2020 yn erbyn yr Arlywydd Biden. Bu fu farw pump o bobl ac fe gafodd 100 o swyddogion eu hanafu.
Mae dros 1,100 o bobl bellach wedi cael eu harestio.
'Siom'
Wrth siarad yn llys ffederal Washington cyn ei ddedfryd, dywedodd Mr Tarrio ei fod yn teimlo “cywilydd” a “siom” am achosi gofid i heddlu a thrigolion lleol ar y pryd.
“Mi fyddaf yn byw gyda’r cywilydd am weddill fy oes,” meddai.
“Doeddwn i ddim yn bwriadu achosi niwed, neu’n disgwyl newid canlyniadau’r etholiad."
“Doeddwn i ddim yn meddwl ei bod hi hyd yn oed yn bosib newid canlyniadau'r etholiad.
“Peidiwch â chymryd fy 40au oddi wrtha i,” gofynnodd i’r barnwr.
Roedd Mr Tarrio yn Baltimore ar ddiwrnod yr anhrefn, a hynny ar ôl iddo dderbyn gorchymyn i adael Washington wedi iddo gael ei ryddhau ar fechnïaeth. Roedd yr achos hwnnw yn ymwneud â chylchgrawn cynhyrchu drylliau a oedd yn ei feddiant. Mae cylchgronau o'r fath yn anghyfreithlon yn Washington.
Mae sawl aelod o The Proud Boys bellach wedi’u carcharu. Fe gafodd Ethan Nordean ddedfryd o 18 mlynedd ddiwedd Awst.
Mae ymchwiliad yr FBI yn parhau, wrth i swyddogion geisio dod o hyd i 14 unigolyn arall sy'n cael eu hamau o dorri'r gyfraith.
Llun: Enrique Tarrio/X