Pris petrol wedi codi i’w lefel uchaf hyd yma eleni
Mae pris petrol yn y DU wedi codi i’w lefel uchaf hyd yma eleni, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Roedd pris cyfartalog litr o betrol di-blwm yn 151.7c ar 4 Medi, i fyny o 150.7c yr wythnos flaenorol.
Dyma'r seithfed naid wythnosol yn olynol.
Mae’r cynnydd yn cael ei yrru gan gynnydd yng nghost olew, sydd wedi codi bron i 12 doler y gasgen yn yr Unol Daleithiau ers dechrau Gorffennaf i fwy nag 88 doler, a hynny am fod grŵp cynhyrchu OPec + wedi lleihau ei gyflenwad.
Mae hyn wedi achosi i gost cyfanwerthu tanwydd – yr hyn y mae manwerthwyr yn ei dalu – godi, sydd yn ei dro wedi’i drosglwyddo i yrwyr.
Mae pris cyfartalog litr o betrol di-blwm bellach ar ei lefel uchaf ers diwedd Rhagfyr 2022 ac wedi cynyddu 9c ers dechrau mis Mehefin.
Ond mae'n dal i fod dipyn yn is na'r uchafbwynt o 191.6c y litr ym mis Gorffennaf 2022.
Mae pris cyfartalog diesel hefyd wedi bod yn codi yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan godi o 144.6c y litr ganol mis Gorffennaf i 154.7c o ddydd Llun.
Mae'r ffigurau wedi'u cyhoeddi gan yr Adran dros Ddiogelwch Ynni a Net Sero.
Llun: Erik McLean / Unsplash