Dyfodol tafarn eiconig mewn perygl oherwydd 'argyfwng' staff

Dyfodol tafarn eiconig mewn perygl oherwydd 'argyfwng' staff
Mae perchennog Tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon wedi dweud efallai na fydd dewis ganddo ond troi’r dafarn eiconig yn westy yn unig.
Yn ôl John Evans mae’r sector lletygarwch yn wynebu "argyfwng" oherwydd prinder staff.
Mae eisoes wedi gorfod canslo dros 500 o fyrddau yno dros y pythefnos nesa.
“Os mae'n mynd yn waeth naw ni jyst troi y Black Boy i gwesty yn unig, a ma' hynna’n drist, 'da ni'n colli rywbeth", meddai.
“A dwi'n meddwl bod 'na lot o lefydd yn yr wlad i gyd sy'n mynd i gael i effeithio efo hwn, di hwn ond y dechrau".
“Ma' ffyrlo di bod yn peth da iawn dros y blwyddyn diwethaf. Ond wrth gwrs wan wrth gofyn i bobl ddod nôl i gwaith di hwnnw ddim mor hawdd".
‘Storm berffaith’
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi galw am ymchwiliad i'r "storm berffaith" rhwng Brexit a Covid-19.
“'Da ni di bod yn clywed gan fusnesau o bob cwr o Gymru ynglŷn â'r problem yma o staffio, o be 'da ni'n ddallt ma' lot o nhw'n dod oherwydd Covid dros y flwyddyn diwethaf lle ma' pobl di bod yn chwilio am waith mwy sefydlog dros yr adeg hynny,” meddai Dr Llyr ap Gareth o Ffederasiwn y Busnesau Bach.
“Mae'n anodd datgysylltu pa elfennau sydd yn broblem sy'n deillio o Covid, a pa rhai sy'n dod o Brexit neu lle ma' nhw'n cyd blethu yn llwyr.
“Felly ma' 'na elfen lle ma'r ddau efo i gilydd yn cyd blethu i neud ryw fath o storm berffaith".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "ymwybodol fod busnesau lletygarwch yn wynebu sialensau".
"Wrth symud ymlaen, un o flaenoriaethau ein cynllun adfer ar gyfer twristiaeth a lletygarwch yw cefnogi'r agenda recriwtio, cadw a sgiliau ehangach y mae'r sector yn ei hwynebu. Rydym wedi sefydlu Partneriaeth Sgiliau Twristiaeth gyda'r diwydiant i ystyried y mater hwn".