Newyddion S4C

Cwmnïau hedfan yn 'cymryd pob cam posib' i gynyddu hediadau wedi anhrefn teithio

01/09/2023
Pixabay

Mae cwmnïau hedfan yn cymryd “pob cam posib” i gynyddu capasiti ar ôl y trafferthion teithio wedi problemau'r system reoli traffig awyr  yn gynharach yr wythnos hon.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU fod cwmnïau hedfan wedi dweud bod “y rhan fwyaf o gwsmeriaid” sydd wedi’u heffeithio gan yr anhrefn bellach wedi cyrraedd pen eu taith.

Cafodd hediadau i ac o feysydd awyr y DU eu cyfyngu am sawl awr brynhawn Llun gan nad oedd y Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol (Nats) yn gallu prosesu cynlluniau hedfan yn awtomatig.

Fe wnaeth Mr Harper gyfarfod gyda Nats, yr Awdurdod Hedfan Sifil, Llu’r Ffiniau, cwmnïau hedfan, meysydd awyr a grwpiau masnach ddydd Gwener “i drafod y sefyllfa ddiweddaraf cyn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd” yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Wrth siarad ar ôl y trafodaethau, dywedodd: “Mae cwmnïau hedfan wedi adrodd bod y rhan fwyaf o gwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt gan fethiant rheoli traffig awyr dydd Llun wedi cyrraedd eu cyrchfannau ac rwy’n ddiolchgar am y camau a gymerwyd gan y diwydiant i helpu i wneud i hyn ddigwydd.

"Mae’r Llywodraeth yn parhau i gefnogi’r ymdrechion hynny mewn unrhyw ffordd y gallwn.

“Ddydd Llun bydd yr Awdurdod Hedfan Sifil yn derbyn adroddiad cychwynnol Nats i’r digwyddiad, y bydd y gweinidog hedfan a minnau’n ei astudio gyda diddordeb. Bydd unrhyw gamau nesaf yn cael eu nodi ar ôl i'r canfyddiadau cychwynnol gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn yr wythnos.

“Mae pob parti yn gweithio’n galed i ddeall y digwyddiad a gwneud yn siŵr nad yw teithwyr yn wynebu’r math hwn o aflonyddwch eto, a byddaf yn eu cefnogi yn yr ymdrech hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.