
‘Mae fy aren yn marw’: Galw am fwy o arbenigwyr arennol yng Nghymru
‘Mae fy aren yn marw’: Galw am fwy o arbenigwyr arennol yng Nghymru
Mae dynes a gafodd ei geni gyda phroblemau ar yr arennau yn dweud bod dim digon o arbenigwyr yn y maes yng Nghymru.
Fe wnaeth Danielle Thomas dderbyn llawdriniaeth i dynnu aren yn naw mis oed a chael trawsblaniad aren yn saith oed.
Erbyn hyn, mae Ms Thomas yn 34 oed ac mae iechyd ei haren yn dirywio gan achosi poen iddi yn feddyliol a ffisegol, meddai.
“Pan ges i fy ngeni, basically roedd dau o fy arennau wedi ffailio.
“Mae function aren fi fod yn 50% oed mae wedi dirwyo gymaint yn y chwe mis diwethaf. Mae’n swnio yn rili dramatig i fod yn onest, ond I’m dying really.
“Ond dwi’n gwybod bod 'na rhywbeth yn rong achos dydi aren fi ddim yn teimlo fel mae o fel arfer. Dwi yn cael yr ache pam dwi mewn efo urine infection ond mae o yn ddyddiol wan.”

Dywedodd Ms Thomas ei bod hi’n deall bod eraill sydd ar ddialysis ac yn disgwyl llawdriniaeth yn flaenoriaeth ond mae “disgwyl misoedd am atebion yn flinedig.”
“Dwi’n dalld iddyn nhw dwi ddim ar dialysis, dwi ddim yn disgwyl am transplant, therefore dwi ddim mor sâl â phobl eraill.
“Mae ‘na rhywbeth, ac i ddisgwyl misoedd dim even atebion ond trafodaeth efo’r person penodol i weld lle da ni’n mynd efo hwn yn rili blinedig a frustrating rili.”
Mae Ms Thomas hefyd yn teimlo bod diffyg dealltwriaeth yn y maes yn gyffredinol.
“Dwi ddim efo’r atebion, dwi’n goro disgwyl achos does 'na ddim digon o consultants dim digon o arbenigwyr. Ac mae 'na ddiffyg dealltwriaeth efo pawb, achos da ni gyd mor wahanol rili.”
Chwe blynedd yn nôl fel wnaeth Ms Thomas a’i gŵr ddechrau’r broses o fabwysiadau wedi’i ddoctor ddweud ei bod hi ddim digon iach i gael plant, ond fe gawson nhw gyngor gwahanol gan ddoctor arall.
“Nath o ddeud bod o meddwl bod ffordd i mi gael plentyn fy hun; ‘I’m not saying there’s not a risk a dwi’n goro bod yn glir mae yna bosibilrwydd nei di golli’r aren ond mae ‘na bosibilrwydd i chdi gael babi dy hun hefyd wrth newid meddyginiaethau.’”

Mae Gethin, mab Mrs Thomas yn chwech oed erbyn hyn ac mae hi’n teimlo yn lwcus iawn. Ond mae poeni am ei hiechyd yn boen dyddiol iddi.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Byrddau Iechyd yn gyfrifol am ystyried yr opsiynau sydd ar gael i gleifion ac rydym yn disgwyl iddynt ddarparu gwasanaethau yn unol â'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefyd yr Arennau, sydd hefyd yn nodi'r safon a ddisgwylir ar gyfer gweithlu gofal yr arennau.
"Er gwaethaf pwysau ar ein cyllideb rydym yn parhau i fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG ac wedi cynyddu'r gyllideb hyfforddi am y nawfed flwyddyn yn olynol i £281m eleni."