Newyddion S4C

Meddygon iau yn rhybuddio Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer cyfnod o streicio

01/09/2023
gig

Mae meddygon iau y Gwasanaeth Iechyd wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru i ddisgwyl streicio a hynny dros anghydfod ynglŷn â thal.

Mae Cymdeithas Feddygol BMA Cymru wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn dweud eu bod nhw’n siomedig gyda chanlyniad trafodaethau cyflogau.

Yn rhan o’r llythyr, datgelodd y BMA y bydden nhw’n mynd i mewn i anghydfod ffurfiol gyda’r Llywodraeth.

Fe ddywedodd y gymdeithas hefyd y bydden nhw’n cynnig pleidlais i’w meddygon dros weithredu diwydiannol.

Fe wnaeth yr undeb wrthod y cynnig cyflog o 5% gan Lywodraeth Cymru.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast bore Gwener, dywedodd Cadeirydd y BMA yng Nghymru, Dr Iona Collins: “Does 'na ddim opsiwn arall i ni nawr.

“Ry’ ni wedi bod yn trio creu sefyllfa well am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

“Mae meddygon yng Nghymru yn gadael Cymru. Mae’r cyflogau yng Nghymru ddim yn gystadleuol gyda chyflogau hyd yn oed yn llefydd eraill ym Mhrydain

“Dydy’r gwasanaeth ddim yn gweithio’n iawn.

Ychwanegodd: “Ma na dewis, ma na dewis gyda’r Llywodraeth, beth maen nhw’n neud gyda’r arian sydd ganddyn nhw.

“Dydy’r sefyllfa nawr ddim yn dderbyniol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae'n siom bod meddygon wedi gwneud y penderfyniad i bleidleisio dros weithredu diwydiannol. Rydym yn deall cryfder y teimladau ymhlith meddygon am y cynnig cyflog o 5% a'r pwysau mae holl weithwyr y sector cyhoeddus yn eu hwynebu oherwydd yr argyfwng costau byw.

"Er y byddem yn dymuno gweithredu’n unol ag uchelgais ein staff meddygol hanfodol i adfer eu lefelau cyflog, mae ein cynnig wedi’i wneud o dan gyfyngiadau’r cyllid sydd ar gael i ni ac mae'n adlewyrchu'r safbwynt y cytunwyd arno gyda'r undebau iechyd eraill ar gyfer eleni.

Ychwanegwyd: "Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nid ydym mewn sefyllfa i gynnig mwy ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i bwyso arnynt i drosglwyddo'r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ac rydym ar gael ar gyfer trafodaethau pellach unrhyw adeg."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.