Cyflwyno cynlluniau i drawsnewid system ddisgyblu'r heddlu
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynlluniau i drawsnewid system ddisgyblu'r heddlu.
Fel rhan o'r cynlluniau a gafodd eu cyflwyno ddydd Iau, bydd plismyn sy'n eu cael yn euog o gamymddwyn difrifol yn wynebu diswyddiad awtomatig.
Hefyd fe fydd gan brif gwnstabliaid, neu uwch swyddogion eraill, fwy o bwerau i ddiswyddo staff twyllodrus o'u heddluoedd.
Fe fydd gan benaethiaid yr heddlu hefyd yr hawl i herio penderfyniadau y maen nhw’n anghytuno gyda nhw, meddai’r Swyddfa Gartref.
Bydd newidiadau i’r gyfraith hefyd yn sicrhau bod swyddogion sy’n methu gwiriadau fetio yn gallu cael eu diswyddo.
Mae’r diwygiadau yn rhan o ymdrech y Llywodraeth i ailadeiladu ffydd a hyder y cyhoedd yn heddluoedd y DU.
Daw hyn yn dilyn llu o sgandalau, gan gynnwys llofruddiaeth Sarah Everard gan yr heddwas Wayne Couzens o'r Met, ac hefyd achos David Carrick oedd yn euog o droseddau rhyw.
Fe wnaeth y Swyddfa Gartref gynnal adolygiad i’r system ddisgyblu i blismyn yn dilyn yr achosion hyn.
Mae Llywodraeth y DU yn gobeithio cyflwyno’r newidiadau yma cyn gynted â phosib.
Diswyddiadau awtomatig
Fel rhan o'r cynlluniau sydd wedi eu datgelu ddydd Iau, bydd unrhyw ganfyddiad o gamymddwyn difrifol yn arwain at ddiswyddo awtomatig oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn bodoli.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman: “Rhaid cael gwared ar swyddogion heddlu llwgr a’r rhai sy’n ymddwyn yn wael allan o’n lluoedd.
“Nid yw ein penaethiaid heddlu wedi cael y pwerau sydd eu hangen arnynt.
“Nawr bydd modd iddyn nhw gymryd camau cyflym a chadarn i ddiswyddo swyddogion na ddylai fod yn gwasanaethu ein cymunedau.”
Ond dywedodd Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Yvette Cooper: “Mae Llafur wedi bod yn galw ers dros ddwy flynedd i drawsnewid systemau camymddwyn a fetio’r heddlu ac mae’n hen bryd gwneud y diwygiadau hyn.
“Ond yn ogystal â bod yn rhy araf, nid yw’r Ceidwadwyr ychwaith yn mynd yn ddigon pell i godi safonau, cael gwared ar gamdriniaeth ac adfer hyder yn y gwaith mae’r heddlu’n ei wneud i gadw cymunedau’n ddiogel.”
Llun: PA