Newyddion S4C

Apêl arall wedi i forlo gael ei ddarganfod yn farw yn Sir Benfro

S4C

Mae galwadau ar i aelodau o’r cyhoedd barchu tiroedd bridio morloi wedi i gorff morlo ifanc gael ei ddarganfod yn arnofio ger arfordir Sir Benfro.

Cafodd y morlo ifanc ei weld ddydd Llun yn arnofio ym Mhwll y Wrach ger Ceibwr yng ngogledd Sir Benfro.

Dywedodd llefarydd ar ran Sea Trust Wales “Nid ydym yn gwybod beth achosodd farwolaeth y babi hwn.

“Ond roedd nifer fawr o bobl yn yr ardal dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, a doedd dim llawer o ymatebion cadarnhaol i geisiadau ar i bobl i beidio â mynd i’r dŵr.”

Image
newyddion
Morlo ifanc marw yn arnofio ger arfordir Sir Benfro.

'Achosi marwolaeth' 

Nid dyma’r tro cyntaf i bryderon gael eu codi. Cafodd rhybuddion eu cyhoeddi am y tro cyntaf sawl wythnos yn ôl,  pan gafodd morloi ifanc cyntaf y tymor eu gweld o amgylch cildraethau Sir Benfro.

Gofynnodd yr ymddiriedolaeth i bobl beidio nofio neu gaiacio ym Mhwll y Wrach a'r cyffiniau rhwng canol Awst a Thachwedd.

Pwysleisiodd yr ymddiredolaeth bod mynd at forloi ifanc yn medru peryglu eu bywyd gan nad ydynt yn gallu nofio tan eu bod o leiaf dair wythnos oed.

Cadarnhaodd yr Ymddiriedolaeth fod morloi wedi cael eu gweld yn yr ardal yn ystod y dyddiau diwethaf yn chwilio am le diogel. Mae Pwll y Wrach yn un o’u hoff lefydd, ac mae morloi wedi ei ddefnyddio fel safle i eni morloi ifanc yn y blynyddoedd blaenorol.

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro hefyd wedi bod yn gofyn i’r cyhoedd gadw draw oddi wrth forloi yn ystod y tymor geni.

A mae swyddogion y parc yn gofyn i unrhyw un sy’n gweld morloi mewn trafferthion i gysylltu â’r Welsh Marine Life Rescue ar 07970 285086 neu’r RSPCA ar 0300 1234 999.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.