Cwymp aelodaeth Y Sgowtiaid yn sefyllfa ‘drist’

Cwymp aelodaeth Y Sgowtiaid yn sefyllfa ‘drist’
Mae mudiad y Sgowtiaid wedi lansio ymgyrch i ddenu aelodau newydd ar ôl i’r mudiad weld y cwymp mwyaf mewn aelodaeth ers yr Ail Ryfel Byd.
Yng Nghymru, mae o ddeutu 14,00 o bobl ifanc a 5000 o wirfoddolwyr yn ymwneud â’r mudiad a gafodd ei sefydlu yn 1910.
Serch hynny, yn ddiweddar maen nhw wedi gweld gostyngiad o 10% mewn aelodau sy’n oedolion, a 30% mewn pobl ifanc.
Mae Beth Gloster yn gomisiynydd i’r Sgowtiaid dros ardal Eryri ac Ynys Môn.
Dywedodd mai’r pandemig sy’n gyfrifol am y gostyngiad mewn aelodaeth.
"Mae gweld be' sy' 'di digwydd dros y deunaw mis diwethaf yn neud fi deimlo'n eithaf trist," dywedodd Ms Gloster.
"Ond, 'da ni'n gweld o amgylch ni mae'r mynyddoedd jyst yn denu pobl atom ni a 'da ni eisiau bod allan yn y nhw bob tro.
“Y ffaith bod ni'n gallu dechrau mynd yn ôl i fynd allan, mwynhau. 'Da ni yn gweld bod pobl eisiau dod yn ôl i'r Sgowtiaid ac yn symud ymlaen dwi'n meddwl bydd y nifer yn codi eto.”
Dywedodd un ferch sy’n aelod o’r Sgowtiaid wrth Newyddion S4C: “Mae o yn poeni fi fod llai o bobl yn Sgowtiaid achos bydd 'na llai o gyfleoedd i blant ifanc sy'n tyfu fyny i gael cyfle i fod yn rhan o'r teulu sgowtiaid fatha 'da ni'n cael rŵan.”
Ychwanegodd aelod arall: “Does 'na ddim rhaid i chi feddwl dwywaith am y peth. 'Da chi efo sgiliau sy'n fythgofiadwy. Jyst rhoi tent fyny, rhywbeth simple, neu adeiladu tân. Mae'n definitely yn werth o.”