Newyddion S4C

Problem gyda rhwydwaith rheoli traffig awyrennau yn effeithio ar ofod awyr y DU

28/08/2023

Problem gyda rhwydwaith rheoli traffig awyrennau yn effeithio ar ofod awyr y DU

Gyda channoedd o hediadau wedi eu canslo, mae teithwyr awyr wedi cael rhybudd i ddisgwyl oedi oherwydd nam technegol ar systemau rheoli traffig awyr y DU

Yn hwyr brynhawn Llun, cyhoeddodd y Gwasanaethau Traffig Awyr (NATS) fod y trafferthion technegol bellach wedi eu datrys.   

Rai oriau ynghynt, fe gyhoeddodd y sefydliad fod cyfyngiadau wedi eu cyflwyno ar hedfan, er mwyn sicrhau diogelwch, oherwydd nam technegol. 

Mewn datganiad, dywedodd NATS: “Ry'n ni yn profi mater technegol, ac wedi cyflwyno cyfyngiadau ar lif traffig er mwyn sicrhau diogelwch. 

“Mae peiranwyr yn gweithio i geisio datrys y broblem. Ry'n ni'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra."  

Mae'r nam yn effeithio ar y gofod awyr uwchben y DU ac yn amharu ar hediadau o feysydd awyr y DU yn ogystal â hediadau i'r meysydd awyr hynny o wledydd eraill .

Daw hyn ar un o benwythnosau teithio prysuraf y flwyddyn.

Mewn datganiad brynhawn dydd Llun, dywedodd Maes Awyr Caerdydd fod eu gwasanaeth rheoli traffig awyr yn wynebu problemau technegol ar hyn o bryd.

"Rydym yn profi oedi ar hyn o bryd, cysylltwch â'ch cwmni hedfan am ragor o wybodaeth/diweddariadau."

Dywedodd prif weithredwr y maes awyr, Spencer Birns, wrth Newyddion S4C: "Mae’n siomedig bod ein cwsmeriaid yn profi oedi oherwydd problemau technegol gyda Gwasanaeth Traffig Awyr y DU (NATS).

"Rydym wedi cael gwybod eu bod yn gweithio'n galed i ddatrys y sefyllfa. Rydym yn cynghori ein cwsmeriaid i siarad â’u cwmni hedfan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu teithiau."

Ymhlith y miloedd o deithwyr sydd yn wynebu oedi, mae newyddiadurwriag BBC Cymru Nest Williams. Mae hi ym Maes Awyr Palma yn Mallorca yn ceisio hedfan oddi yno i Faes Awyr Manceinion: " 'Dw i ddim yn hyderus y byddwn ni'n mynd i unman yn fuan," meddai.

"Does dim gwybodaeth yn cael ei roi i ni chwaith - dim ond i aros".

Mae maes awyr Dulyn yn adrodd fod problem gyda'r rhwydwaith yn y DU yn achosi oedi i rai hediadau, gyda maes awyr Corc hefyd yn adrodd am oedi posib i deithwyr.

Galwodd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y Prif Weinidog Rishi Sunak i gynnal cyfarfod Cobra mewn ymateb i'r sefyllfa.

Dywedodd llefarydd trafnidiaeth y blaid, Wera Hobhouse: “Mae angen i Rishi Sunak a’i weinidogion fynd i’r afael â’r mater hwn ar frys a chynnal cyfarfod Cobra.

“Gallai miliynau o bobl ar eu gwyliau fod yn wynebu aflonyddwch enfawr yn y dyddiau nesaf oherwydd y nam hwn ac mi allwn fentro y bydd y Llywodraeth yma ar goll eto.

“Mae angen i Brydain wybod bod y Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau nad yw pobl yn cael eu taro gan oedi ac aflonyddwch mawr yn y dyddiau nesaf.”

Rhybuddiodd cwmni hedfan Loganair gwsmeriaid ar blatfform cymdeithasol X, oedd yn cael ei adnabod gynt fel Twitter, y gallai teithiau hedfan fod yn destun oedi oherwydd y trafferthion technegol.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni o Glasgow brynhawn Llun: “Mae systemau cyfrifiadurol rheoli traffig awyr y DU wedi methu ar draws y rhwydwaith y bore yma.

“Er ein bod yn obeithiol o allu gweithredu’r rhan fwyaf o hediadau o fewn yr Alban ar sail cydgysylltu lleol a chyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl, efallai y bydd teithiau hedfan gogledd-de a rhyngwladol yn destun oedi.

“Os ydych chi’n hedfan gyda ni heddiw, gwiriwch ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf am eich taith cyn cychwyn am y maes awyr.”

Llun: JoeBreuer/Pixabay

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.