Cannoedd mewn gwylnos wedi marwolaeth pedwar person ifanc mewn gwrthdrawiad yn Tipperary
Fe wnaeth cannoedd o bobl fynychu gwylnos i alaru marwolaethau pedwar o bobl ifanc, gan gynnwys brawd a chwaer, a gafodd eu lladd mewn damwain yn Sir Tipperary, Iwerddon, ddydd Gwener.
Cafodd yr wylnos ei threfnu nos Sul i gofio am Luke McSweeney, 24 oed, ei chwaer Grace McSweeney, Zoey Coffey a Nicole Murphy, oedd i gyd yn 18 oed.
Roedd Mr McSweeney yn gyrru'r dair ffrind i ddal bws ddydd Gwener pan wyrodd y car drosodd gan daro wal yn nhref Clonmel.
Roedd y tair ar eu ffordd i ddathlu canlyniadau eu harholiadau diwedd ysgol, oedd wedi eu cyhoeddi yn gynharach ddydd Gwener.
Cafodd blodau, nodiadau a chanhwyllau eu gadael wrth wal Ysgol Uwchradd Loreto, lle aeth Ms Murphy i'r ysgol ac sydd rownd y gornel o leoliad y ddamwain.
Dywedodd Gweinidog Addysg llywodraeth y Weriniaeth, Norma Foley, y byddai cymorth ar unwaith yn cael ei gynnig gan ysgolion a’u staff, gyda’r Gwasanaeth Seicolegol Addysgol Cenedlaethol yn cynnig unrhyw gymorth pellach.
“Bydd y gwasanaethau hynny yn eu lle cyn belled ag y mae eu hangen ar yr ysgolion ac rydym yn ymwybodol iawn o’r ffaith y bydd gan wahanol ysgolion anghenion gwahanol,” meddai.
Roedd cyd-ddisgyblion o ysgol uwchradd Ms McSweeney a Ms Coffey yn gwisgo siwmperi piws yn ystod yr wylnos nos Sul i goffau eu dosbarth graddio yr haf hwn.
Dywedodd Esgob Waterford a Lismore, Alphonsus Cullinan, wrth y dorf ei bod yn “rhyfeddol” gweld cymaint o bobl yn yr wylnos, a bod “daioni” mewn pobl yn dod i gysuro ei gilydd.
Dywedodd y byddai pobl yn cefnogi ei gilydd yn y dyddiau nesaf ac yn “dod o hyd i gryfder yn hynny”.
Anerchodd Maer Clonmel, Richie Molloy, yr wylnos trwy ddweud mai hon oedd y trychineb gwaethaf mewn cof yn yr ardal.
Ychwanegodd: “Mae’n anodd iawn gwybod beth mae’r teuluoedd yn ei deimlo heno, ac er y gallwn ddychmygu, mae’n anodd iawn gwybod.
“Y cyfan y gallaf ei ddweud fel y maer, mae pobl y dref wir eisiau dangos i’r teuluoedd y teimlad o undod sydd allan yna.”
Llun: PA