Profion yn cadarnhau fod pennaeth grŵp milwrol Wagner wedi ei ladd yn Rwsia
Mae’r awdurdodau yn Rwsia wedi cadanrhau fod pennaeth grŵp milwyr Wagner, Yevgeny Prigozhin wedi ei ladd ar ôl i awyren gwmpo i’r ddaear yn Rwsia.
Dywedodd pwyllgor ymchwiliadau Rwsia fod profion geneteg wedi cadarnhau fod Yevgeny Prigozhin ymhlith y 10 o bobl oedd yn teithio ar yr awyren.
Roedd wedi arwain gwrthryfel yn erbyn byddin Rwsia ac wedi gorymdeithio ei filwyr Wagner i Moscow ym mis Mehefin, gan ohirio hynny ar ôl trafodaethau gyda chynghreiriad Putin ac arweinydd Belarus, Alexander Lukashenko.
Fe wnaeth hefyd gytuno i adael Rwsia am Belarus, ac roedd y Kremlin wedi dweud na fyddai’n cael ei gosbi.
Roedd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin wedi disgrifio gweithredoedd Prigozhin fel “brad”.
Nid yw manylion y profion wedi eu rhyddhau ac nid yw’r wybodaeth wedi ei wirio’n annibynnol.