Tri o bobl wedi eu saethu’n farw mewn 'ymosodiad hiliol' yn Fflorida
27/08/2023
Mae dyn wedi saethu’n farw tri o bobl du mewn ymosodiad hiliol mewn siop yn Jacksonville yn nhalaith Fflorida yn yr UDA.
Ar ôl iddo ladd y tri pherson, fe laddodd y saethwr ei hun.
Dywedodd heddlu Jacksonville fod Ryan Palmeter, 21 oed, a ddisgrifiwyd yn wyn, yn gwisgo arfwisg ac roedd wedi gadael maniffesto.
Fe saethodd menyw yn farw yn ei char yn y maes parcio cyn saethu dau arall tu fewn i'r siop.
Dywedodd maer Jacksonville Donna Deegan fod hwn yn “drosedd o gasineb” wedi ei annog gan gasineb hiliol.
Ychwanegodd fod gan y saethwr sawl gwn yn ei feddiant ac roedd swastika ar un.