Newyddion S4C

FIFA yn gwahardd Luis Rubiales dros dro wedi cusan ffeinal Cwpan y Byd

26/08/2023

FIFA yn gwahardd Luis Rubiales dros dro wedi cusan ffeinal Cwpan y Byd

Mae FIFA, y corff llywodraethu pêl-droed byd-eang, wedi gwahardd llywydd Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen, Luis Rubiales dros dro tra eu bod nhw'n cynnal ymchwiliad i'w ymddygiad wedi iddo gusanu chwaraewr ar ôl ffeinal Cwpan y Byd merched.

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd FIFA eu bod nhw wedi gwahardd Mr Rubiales "o bob gweithgaredd sy'n gysylltiedig â phêl-droed ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol" am 90 diwrnod yn y lle cyntaf wrth aros am yr ymchwiliad.

Yn hwyrach ddydd Sadwrn fe wnaeth 11 o staff hyfforddi Sbaen o Gwpan y Byd ymddiswyddo heblaw am y rheolwr Jorge Vilda.

Mae’r is-reolwyr Montse Tome, Javier Lerga a Eugenio Gonzalo Martin ynghyd â’r ymgeleddwr Blanca Romero Moraleda  a hyfforddwr y golwyr Carlos Sanchez wedi rhoi’r gorau i’w swyddi.

Mae Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu dwyn achos cyfreithiol dros sylwadau'r chwaraewr Jenni Hermoso yn erbyn Luis Rubiales.

Dywedodd Jenni Hermoso ei bod hi heb gydsynio i gael ei chusanu gan y llywydd ar ôl ffeinal Cwpan y Byd merched yn erbyn Lloegr, ond mae’r ffederasiwn yn cwestiynu hynny gan honni fod Hermoso yn dweud "celwydd".

Mae FIFA wedi dwyn achos disgyblu yn erbyn Luis Rubiales wedi iddo gusanu'r ymosodwr Jenni Hermoso ar ei gwefusau yn dilyn y fuddugoliaeth dros Loegr.

Mae 81 o chwaraewyr hefyd wedi cadarnhau na fyddan nhw'n chwarae i dîm cenedlaethol Sbaen nes iddo gael ei dynnu o'i swydd.

Mae Luis Rubiales wedi gwrthod ymddiswyddo.

Dywedodd y Ffederasiwn: “Mae’r dystiolaeth yn bendant, mae’r Llywydd heb ddweud celwydd.”

Dywedodd tîm pêl-droed Lloegr fod y weithred yn "annerbyniol".

Mae Gwennan Harries, cyn-chwaraewr Cymru, wedi croesawu penderfyniad FIFA.

Dywedodd: "Ie, bles iawn i weld bod FIFA wedi camu mewn, fi'n credu o'dd angen. O'dd popeth, yn amlwg, yr holl ddigwyddiad yn annerbyniol. Ond mae'r ffordd maen nhw fel cymdeithas bêl-droed wedi ymateb ynn dangos yn glir y problemau sydd yn y system."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.