Darganfod corff yn ystod ymchwiliad i ddiflaniad Frankie Morris
03/06/2021
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau fod corff wedi cael ei ddarganfod fel rhan o ymchwiliad i ddiflaniad dyn ifanc o Ynys Môn.
Mae Frankie Morris, 18 oed o Landegfan, wedi bod ar goll ers 2 Mai.
Cafwyd hyd i gorff mewn coedwig ger Caerhun ar gyrion Bangor yn gynharach brynhawn dydd Iau.
Mae’r crwner yn ymwybodol o’r datblygiadau, ond nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol eto.
Bydd post mortem yn cael ei gynnal ddydd Gwener.
Mae teulu Frankie yn ymwybodol o’r datblygiadau ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae’r heddlu wedi cydymdeimlo gyda’i deulu.