Farrell i fethu dwy gêm gyntaf Cwpan y Byd wedi cerdyn coch yn erbyn Cymru
Wedi iddo dderbyn cerdyn coch yn erbyn Cymru ganol Awst, bydd capten Lloegr, Owen Farrell yn methu’r ddwy gêm grŵp gyntaf yng Nghwpan y Byd.
Fe ddaw y newydd ar ôl i'r corff 'World Rugby' apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthdroi ei gerdyn coch.
Mae gwaharddiad capten Lloegr o bedair gêm yn golygu y bydd yn colli’r gemau grŵp yn erbyn yr Ariannin a Japan, a dwy gêm brawf cyn y bencampwriaeth yn Ffrainc.
Cafodd cerdyn coch Farrell ei wrthdroi gan bwyllgor annibynnol, ond fe gafodd y penderfyniad ei wrthdroi unwaith eto ddydd Mawrth.
Dywedodd y Pwyllgor Apêl fod y dacl "bob amser yn anghyfreithlon".
Cafodd Farrell gerdyn coch yn y gêm yn erbyn Cymru yn Twickenham ar 12 Awst.
Penderfynodd y Pwyllgor Apêl yn unfrydol y dylai’r Pwyllgor Disgyblu, yn eu gwrandawiad gwreiddiol, fod wedi ystyried ymgais Farrell i lapio ei wrthwynebydd yn y dacl.