Newyddion S4C

Plant ag anghenion ychwanegol 'ddim yn cael cefnogaeth' mewn ystafelloedd dosbarth

ITV Cymru 22/08/2023
Plant ag anghenion dysgu

Mae mam i blant ag anghenion dysgu yn dweud iddi orfod rhoi'r gorau i’w swydd er mwyn addysgu ei phlant gartref, oherwydd diffyg cefnogaeth. 

Mae gan bob un o bedwar plentyn Victoria Lightbrown o Sir Ddinbych anghenion ychwanegol.

Dywedodd wrth ITV Cymru nad yw nifer o blant ag anghenion ychwanegol yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen yn yr ystafell ddosbarth. 

“Mae teuluoedd yn gweld hi’n anodd i frwydro. Maen nhw wedi cael digon, oherwydd brwydr yw popeth bach" meddai.

Dywedodd Ms Lightbrown: “Mae’n hunllef oherwydd mae’n anodd iawn cynnal trafodaeth, boed hynny drwy iechyd addysgol [...] a pan eich bod chi’n gwneud hyn bedair gwaith, mae bron yn amhosib.”

Dim ond un o’i phlant sy’n mynd i’r ysgol feithrin, ond dywedodd nad oes “cefnogaeth ddigonol” i weddill ei phlant. 

Mae un o’i phlant, sy’n 5 oed, â gallu lleferydd ac iaith sy'n iau na 18 mis.

Mae'n honni iddi gael gwybod y byddai ei phlentyn yn "dal i fyny" gan ychwanegu ei bod bellach yn brwydro i gael cefnogaeth.

O ganlyniad, mae Victoria Lightbrown wedi dechrau deiseb yn galw am fwy o gyllid i helpu plant eraill.

“Mae’r ddeiseb yna i godi ymwybyddiaeth bod pethau ddim yn iawn”, meddai.

“Ein nod yw i gael 10,000 o lofnodion fel bod yn rhaid iddi gael ei thrafod yn y Senedd”. 

"Mae hynny i ddatgan yn glir bod plant Cymru a theuluoedd yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd iawn cael addysg briodol."

Wrth siarad ag ITV, dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS ei fod yn “cytuno yn llwyr” gyda’r “egwyddor sylfaenol yn y ddeiseb” ac aeth ymlaen i ddweud bod “angen i staff ddeall anghenion pob disgybl.”

Eglurodd rhiant arall a oedd am gael ei hadnabod fel Justine, nad oedd ei mab wedi cael diagnosis awtistiaeth tan y llynedd. Ac er iddi weld sawl meddyg, mae'n dweud iddi gael ei chyfeirio at “gwrs magu plant”.

Roedd mynd i'r ysgol yn brofiad “trawmatig” i'w mab ac roedd yn gwrthod mynd yno. 

Fe ychwanegodd bod rhai plant yn profi "trawma yn yr ysgol" oherwydd "diffyg dealltwriaeth" am anghenion dysgu ychwanegol o fewn ysgolion prif ffrwd.

Mae system ddiwygiedig Llywodraeth Cymraeg yn fframwaith i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol neu iau ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae hefyd yn ceisio cefnogi pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sydd mewn ysgol neu addysg bellach.

Fodd bynnag, mae Victoria Lightbrown yn credu bod y drefn ddiwygiedig hon yn ei gwneud hi'n anos i gael cefnogaeth.

Mewn ymateb, dywedodd Jeremy Miles bod £10 miliwn ychwanegol eisoes wedi ei rhoi i ysgolion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.