Cymru Premier JD: Rhagolwg ar gemau nos Wener
Wedi dwy gêm, Y Seintiau Newydd, Caernarfon a Phen-y-bont sy’n gosod y safon gyda record 100% yn y gynghrair, tra bod yr unig ddau i golli eu dwy gêm agoriadol yn cyfarfod ddydd Sadwrn, sef Y Drenewydd ac Aberystwyth.
Y Bala v Cei Connah | Nos Wener – 19:45
Ar ôl gêm ddi-sgôr ar Gampws Cyncoed ddydd Sadwrn, Y Bala a Met Caerdydd yw’r unig ddau glwb sydd eto i ildio gôl yn y gynghrair y tymor hwn.
Ac er i Gei Connah gadw llechen lân yn erbyn Aberystwyth nos Wener, y Nomadiaid sydd â’r record amddiffynnol waethaf yn y gynghrair ar ôl ildio chwech yn erbyn Y Seintiau Newydd ar y penwythnos agoriadol.
Fe wnaeth y clybiau gyfarfod chwe gwaith y tymor diwethaf gyda’r Bala’n ennill ddwywaith mewn gemau cwpan ond yn methu a churo Cei Connah mewn pedair gêm gynghrair (Cei ennill 2, Bala ennill 2, cyfartal 2).
Bydd Aeron Edwards a Joe Malkin yn awyddus i greu argraff ar Faes Tegid gan i’r ddau adael Cei Connah dros yr haf cyn ymuno â’r Bala.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅➖
Cei Connah: ❌✅
Pontypridd v Pen-y-bont | Nos Wener – 19:45
Mae Pontypridd yn un o’r tri tîm sy’n dal i aros am eu gôl gynta’n y gynghrair yn dilyn gêm ddi-sgôr yn Hwlffordd a cholled o 1-0 gartef yn erbyn Y Seintiau Newydd.
Llun: Fforograffiaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Ond mae Pen-y-bont yn un o’r tri tîm sydd â record berffaith wedi’r ddwy gêm agoriadolar ôl buddugoliaethau cadarn yn erbyn Y Drenewydd a Hwlffordd.
A Pen-y-bont gafodd y gorau o bethau y tymor diwethaf, yn ennill pedwar pwynt allan o’r chwe posib yn erbyn Pontypridd.
Bydd Chris Venables yn gobeithio ychwanegu at ei ddwy gôl gynghrair i Ben-y-bont y tymor yma, tra bydd Ben Ahmun eisiau plesio i Bontypridd yn erbyn ei gyn-glwb.
Record cynghrair diweddar:
Pontypridd: ➖❌
Pen-y-bont: ✅✅