Newyddion S4C

Teyrngedau i 'ffrind annwyl, cydweithiwr a chapten' Bad Achub Moelfre ar Ynys Môn

22/08/2023
alan owen.png

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i 'ffrind annwyl, cydweithiwr a chapten' Bad Achub Moelfre ar Ynys Môn.

Bu farw Alan Owen yn yr ysbyty ddydd Llun wedi iddo fynd yn sâl yn annisgwyl yn ei gartref.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd Bad Achub Moelfre: "Fel criw a chymuned, rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf at bartner Alan, Mags, ei fam, Helen, Magic ei gi a'i deulu a'i ffrindiau estynedig.

Bu Mr Owen yn gwasanaethu gyda'r RNLI ym Moelfre am 34 o flynyddoedd mewn ffordd "ymroddedig ac angerddol".

"Alan, Al...Tymoel...Ein capten, ein harweinydd, ein ffrind, byddwn yn dy golli am byth. Rydym ni i gyd yn diolch i ti ac yn dymuno dim byd heblaw gwyntoedd teg a moroedd tawel."

Ychwanegodd Bad Achub Moelfre fod ei angerdd tuag at "lywio a chynllunio heb ei ail, ac roedd wrth ei fodd yn rhannu'r wybodaeth a'r angerdd yma gyda'i griw gwirfoddol.

"Yn 2019, gwireddodd Alan freuddwyd o'i blentyndod i gael ei benodi yn gapten llawn amser Bad Achub Moelfre, ac fe wasanaethodd yn y rôl yma gyda dim byd ond ymroddiad a gofal, nid yn unig at ei griw ei hun ond i'r cyhoedd a'r bobl oedd angen eu hachub yn y môr. 

"Roedd Alan o hyd yn rhoi anghenion pawb arall o flaen anghenion ei hun, a byddwn yn ddiolchgar am hyn am byth." 

Gwirfoddolodd Mr Owen gyda thîm achub llifogydd yr RNLI, gan gynorthwyo gyda llifogydd Cumbria a Gogledd Cymru yn 2015.

Dywedodd Bad Achub Moelfre y byddai'r orsaf yn parhau ar agor a'r criw gwirfoddol yn parhau i weithio, gyda Martin Jones, "ffrind gorau Alan wrth y llyw.

"Bydd yr orsaf ar gau i'r cyhoedd am y tro fel arwydd o barch at Alan ac er mwyn gadael ei ffrindiau a'r criw i ddod i delerau â cholled mor fawr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.