Newyddion S4C

Manchester United yn rhyddhau Mason Greenwood wedi ymchwiliad mewnol

21/08/2023
Mason Greenwood

Mae Manchester United wedi penderfynu rhyddhau Mason Greenwood o'i gytundeb gyda'r clwb yn dilyn ymchwiliad mewnol sydd wedi para chwe mis.

Cafodd y chwaraewr 21 oed ei arestio ym mis Ionawr 2022 ar amheuaeth o dreisio, ymosod a bygwth lladd menyw ifanc, wedi i honiadau gael eu cyhoeddi ar-lein. 

Yn sgil yr honiadau, cafodd Mr Greenwood, sydd wedi ennill un cap dros Loegr, ei wahardd rhag chwarae neu ymarfer gyda Manchester United. 

Ond ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Heddlu Manceinion fod y cyhuddiadau yn erbyn y pêl-droediwr wedi'u gollwng.

Mewn datganiad ddydd Llun fe gyhoeddodd clwb Manchester United bod eu hymchwiliad wedi dod i ben.

"Ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i ni, rydym wedi dod i’r casgliad nad oedd y deunydd a bostiwyd ar-lein yn rhoi'r darlun llawn".

Ychwanegodd y datganiad bod y dystiolaeth yn dangos "nad oedd Mason Greenwood wedi cyflawni'r troseddau yn y cyhuddiadau gwreiddiol  

"Wedi dweud hynny, mae Mason yn cydnabod yn gyhoeddus ei fod wedi gwneud camgymeriadau ac yn cymryd cyfrifoldeb amdanynt.

"Mae pawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, gan gynnwys Mason, yn cydnabod y problemau gydag ef yn ail-ddechrau ei yrfa ym Manchester United. 

"Felly, rydym wedi cytuno y byddai’n well iddo wneud hynny i ffwrdd o Old Trafford, a byddwn nawr yn gweithio gyda Mason i gyflawni hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.