Carcharu chwe dyn am droseddau caethwasiaeth fodern a chyffuriau
Mae chwe dyn wedi eu carcharu am gyfanswm o 34 blwyddyn a thri mis am droseddau caethwasiaeth fodern a throseddau mewn cysylltiad â chyffuriau.
Fe wnaeth Heddlu De Cymru arestio'r chwe dyn, oedd yn aelodau o grŵp troseddau trefnedig yng Nghasnewydd, a oedd yn ecsbloetio plant yn eu harddegau i werthu cyffuriau ar eu rhan yng Nghastell-nedd.
Operation Bridport oedd enw'r ymchwiliad a wnaeth arwain at y chwe dyn yn cael eu harestio am gynllwynio i ddosbarthu cyffuriau dosbarth A ac ecsbloetio pobl ifanc bregus dan adran dau'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.
Dyma fanylion y chwech a gafodd eu harestio a manylion eu dedfrydau.
• Dwayde Stock, 28 oed o Gasnewydd – dedfryd naw mlynedd am droseddau caethwasiaeth fodern a throseddau mewn cysylltiad â chyffuriau.
• David Rustham Allen, 30 oed o Gasnewydd – dedfryd wyth mlynedd am droseddau caethwasiaeth fodern a throseddau mewn cysylltiad â chyffuriau.
• Justin James Hensall, 36 oed o Gasnewydd– chwe blynedd ac wyth mis am ddosbarthu cyffuriau a throseddau caethwasiaeth fodern.
• Joshua Nathan Jeffries, 32 oed o Gasnewydd, – tair blynedd ac wyth mis am ddosbarthu cyffuriau.
• Ottis Jeffries, 28 oed o Gasnewydd – tair blynedd a phedwar mis am ddosbarthu cyffuriau.
• Bernard Christopher Hurley, 37 oed o Gasnewydd – tair blynedd a phedwar mis am ddosbarthu cyffuriau.
Neges glir
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Phil Oseng-Rees: “Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â llinellau sirol i gadw ein cymunedau’n ddiogel ac i garcharu’r rhai sy’n manteisio ar eraill at ddiben gwerthu cyffuriau.
“Mae ecsbloetio plant sy’n agored i niwed yn y modd hwn yn annerbyniol ac mae’r defnydd o ddeddfwriaeth caethwasiaeth fodern yn llinyn pwysig wrth dargedu rhwydweithiau troseddol sy’n trin plant ac oedolion bregus i wneud y mwyaf o’u helw o gyflenwi cyffuriau.
"Mae'r dedfrydu heddiw yn anfon neges glir y byddwn yn parhau i ddileu gweithgarwch llinellau sirol.”