Newyddion S4C

Apêl yn dilyn gwrthdrawiad 'difrifol' rhwng tri cherbyd ar yr M4

21/08/2023
Heddlu

Mae'r heddlu yn apelio am lygad dystion yn dilyn gwrthdrawiad “difrifol” rhwng tri cherbyd ar draffordd yr M4 brynhawn Gwener. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cyffyrdd 33 a 32 ar yr M4 toc cyn 13.30. 

Fe gafodd dynes 70 oed o Gaerdydd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas gydag anafiadau difrifol, yn ôl Heddlu De Cymru. 

Roedd cerbyd VW Transporter, Audi A3 a Ford Transit yn y gwrthdrawiad. 

Mae’r heddlu yn apelio am lygad dystion, neu unrhyw un sydd â delweddau dashcam, ac yn annog pobl i gysylltu â nhw drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2300277456.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.