
Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd
Cyhoeddi carfan Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd
Mae Jac Morgan a Dewi Lake wedi eu henwi yn cyd-gapteniaid ar Gymru wrth i Warren Gatland gyhoeddi ei garfan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.
Bydd y blaenasgellwr Morgan, 23, a’r bachwr Lake, 24, yn arwain Cymru yn ystod y gystadleuaeth, sy’n dechrau yn Ffrainc ar ddydd Gwener 8 Medi.
Ymhlith y 33 o chwaraewyr sydd wedi eu dewis yn y garfan mae’r chwaraewyr ifanc Sam Costelow, Rio Dyer, Dafydd Jenkins a Corey Domachowski.
Ar ôl cael eu henwi yn y garfan estynedig, mae Kieran Hardy, Owen Williams, Joe Roberts a Taine Plumtree ymhlith y chwaraewyr sydd heb eu cynnwys yn y garfan derfynol.

Yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg yng Ngwesty'r Fro brynhawn Llun, fe ddywedodd Warren Gatland: "Y rhan anoddaf o’r swydd yw dewis carfan, yn enwedig ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.
“Dros y tri mis diwethaf mae’r grŵp o 48 o chwaraewyr yn y garfan estynedig wedi bod yn wych, o safbwynt eu hymdrech ac agwedd, felly mae cwtogi’r garfan i 33 o chwaraewyr wedi bod yn galed iawn ac mae penderfyniadau agos iawn wedi ei gwneud dros y 36 awr diwethaf.
“33 o chwaraewyr yn unig gallwn ni fynd gyda ni ac mae’r rhai rydym wedi eu dewis yn cynnig cyfuniad da o dalent a phrofiad.
“Mae gennym ragor o sesiynau hyfforddi yma yng Nghymru cyn i ni adael am Ffrainc ar 3 Medi ac ni allwn aros i gyraedd yno a chymryd rhan yn y gystadleuaeth. Rydym yn edrych ymlaen i weld beth all y grŵp yma ei gyflawni.
“Dyma foment balch iawn i’r chwaraewyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau, a hoffwn eu llongyfarch ar gyflawni hyn.”
Mi fydd Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth yn erbyn Fiji ddydd Sul 10 Medi.
Carfan Cymru
Blaenwyr: Taine Basahm, Adam Beard, Elliott Dee, Corey Domachowski, Ryan Elias, Taulupe Faletau, Tomas Francis, Dafydd Jenkins, Dewi Lake (Cyd-gapten), Dillon Lewis, Dan Lydiate, Jac Morgan (Cyd-gapten), Tommy Refell, Will Rowlands, Nicky Smith, Gareth Thomas, Henry Thomas, Christ Tshiunza, Aaron Wainwright.
Olwyr: Josh Adams, Gareth Anscombe, Dan Biggar, Sam Costelow, Gareth Davies, Rio Dyer, Mason Grady, Leigh Halfpenny, George North, Louis Rees-Zammit, Nick Tompkins, Johnny Williams, Liam Williams, Tomos Williams.
(Llun: Huw Evans Picture Agency)