Pêl-droed: Cip ar ail benwythnos Uwch Gynghrair Cymru JD

Roedd hi’n ddechrau rhwystredig i’r tymor i’r ddau glwb newydd, a bydd Y Barri a Bae Colwyn yn mynd benben ddydd Sadwrn yn y gobaith o ennill eu pwyntiau cyntaf ers eu dyrchafiad.
Fe fydd Hwlffordd a Phen-y-Bont yn herio'i gilydd ar ôl cael blas ar bêl-droed Ewropeaidd dros yr haf.
Dyma'r rhagolwg o gemau nos Wener yn ail benwythnos yr Uwch Gynghrair Cymru JD.
Caernarfon v Y Drenewydd | Nos Wener – 19:45
Cafodd Caernarfon y dechrau delfrydol i’w tymor newydd gyda buddugoliaeth gyfforddus oddi cartref ym Mae Colwyn (Bae 0-4 Cfon).
Roedd hi’n brynhawn da i’r Cofis gyda’r ddau flaenwr newydd, Adam Davies a Zack Clarke, yn cyfuno’n effeithiol i sgorio tair o’r bedair gôl, a’r hen ben Darren Thomas hefyd yn rhwydo i brofi ei fod yn dal yn chwaraewr gwerthfawr ac yntau bellach yn 36 mlwydd oed.
Doedd hi ddim yn ddechrau cystal i’r Drenewydd wrth iddyn nhw golli 3-1 gartref yn erbyn Pen-y-bont gan ildio un gôl echrydus i’w rhwyd eu hun.
Roedd yna ambell i bwynt positif i dîm Chris Hughes, a’r mwyaf o rheiny oedd gôl hwyr Jason Oswell, gyda enillydd Esgid Aur 2016/17 yn sgorio’r gôl gynta’n y gynghrair ers 2017.
Er y golled y penwythnos diwethaf bydd Y Drenewydd yn hyderus, gan eu bod wedi ennill pob un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon, ac heb golli ar yr Oval ers Mawrth 2020.
Cei Connah v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45
Mae Cei Connah yn dechrau’r penwythnos wrth waelod y tabl ar ôl ildio chwech yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Wener diwethaf.
Roedd y Nomadiaid wedi mynd ar y blaen ddwywaith yn Neuadd y Parc, ond dangosodd y pencampwyr eu dannedd yn yr ail hanner i ennill 6-2 a gosod eu marc yn gynnar yn y tymor.
Bu Aberystwyth yn agos i syrthio o’r uwch gynghrair y tymor diwethaf, ac fe ddechreuodd y tymor newydd gyda cholled gartref yn erbyn Met Caerdydd.
Sgoriodd Eliot Evans unig gôl y gêm i’r ymwelwyr wedi 34 munud, cyn iddo dderbyn cerdyn coch yn yr ail hanner. Ond er i Aberystwyth chwarae’r chwarter awr olaf gyda dyn yn ychwanegol fe fethon nhw a churo amddiffyn y myfyrwyr.
Enillodd Aberystwyth o 2-1 gartref yn erbyn Cei Connah fis Medi diwethaf, ond honno yw eu hunig buddugoliaeth mewn 13 gêm yn erbyn y Nomadiaid, ac Hydref 2015 oedd y tro diwethaf i’r Gwyrdd a’r Duon ennill oddi cartref yn erbyn Cei Connah.
Bydd hi’n noson arbennigg i’r Nomadiaid wrth iddyn nhw gynnal gêm yng Nghae y Castell am y tro cyntaf ers gadael eu cartref blaenorol, Stadiwm Glannau Dyfrdwy.
Pen-y-bont v Hwlffordd | Nos Wener – 19:45
Chris Venables oedd yr arwr i Ben-y-bont brynhawn Sadwrn, yn sgorio dwy gôl i’w glwb newydd yn eu buddugoliaeth o 3-1 oddi cartref yn Y Drenewydd.
Di-sgôr oedd gêm agoriadol Hwlffordd yn erbyn Pontypridd nos Wener gyda’r golwr dawnus Zac Jones yn serennu i’r Adar Gleision unwaith yn rhagor.
Mae’r ddau glwb wedi cael blas ar bêl-droed Ewropeaidd dros yr haf, a dyna fydd y nod unwaith eto’r tymor hwn.
Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y gêm gystadleuol ddiwethaf rhwng y timau ym mis Rhagfyr (Hwl 2-1 Pen), ond dyna’r unig dro mewn chwe gêm i’r Adar Gleision guro Pen-y-bont yn yr uwch gynghrair.
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:35.