Cyhoeddi cynllun gwerth £20m i geisio ailddatblygu canol dinas Bangor
Mae cynllun £20m wedi ei gyhoeddi i ailddatblygu canol Bangor, gan ganolbwyntio ar ganolfan siopa fwya’r ddinas.
Mae’r cynllun yn ffrwyth cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Prifysgol Bangor a Chyngor Gwynedd.
Bydd y cynllun yn cynnwys datblygu Canolfan Iechyd a Lles newydd yng Nghanolfan Menai yn y ddinas.
Dywedodd arweinydd y cyngor Dyfrig Siencyn bod Bangor “yn anffodus” wedi “dioddef yn sgil y newidiadau yn arferion siopa a hamddena pobl”.
“Mae pobol leol wedi dweud wrthon ni eu bod nhw’n poeni am Stryd Fawr Bangor a’r nifer o siopau gwag a’r diffyg gwasanaethau,” meddai.
“Fel Cyngor, rydym yn benderfynol o sicrhau bod y ddinas hanesyddol hon yn parhau i fod yn lle bywiog ar i’r genhelaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol i fyw, astudio, gweithio ac ymweld â hi.”
Beth yw’r cynllun?
Man cychwyn y cynllun fydd sicrhau ‘Cytundeb Opsiwn’ 18 mis ar adeilad Canolfan Menai.
Fe fydd hynny’n rhoi amser i'r cyngor a’u partnereiaid ddatblygu cynlluniau llawn ac achos busnes ar y prosiect “uchelgeisiol a chyffrous,” cyn ymrwymo i brydles tymor hir ar yr adeilad.
Wedi’r cyfnod hwn – os ydy’r partneriaid yn penderfynu bwrw ymlaen – y bwriad fydd cymryd les tymor hir ar yr uned 57,000 troedfedd sgwâr, sy’n cynnwys yr hen siop Debenhams.
Y nod ydy ail-bwrpasu a thrawsnewid y gofod presennol – a oedd yn 80% yn wag yn gynharach eleni – i ddarparu gwasanaeth iechyd a lles i bobl leol.
Bydd hyn yn ddibynnol ar Gynllun Canolfan Iechyd a Lles Bangor yn cael ei gymeradwyo a phecyn ariannol cyflawn yn cael ei gadarnhau, meddai’r cyngor.
Yn gynharach eleni fe brynodd cwmni Rob Lloyd, Bearmont Capital, safle Canolfan Menai gan dwdeud y gallai fod yn “gatalydd” i achub canol y ddinas.
Dywedodd eu bod nhw bellach wedi “sicrhau sawl tenant newydd cyffrous yn y maes manwerthu”.
“Mae gan y Ganolfan Iechyd y potensial i drwsnewid Bangor a'r ardaloedd cyfagos,” meddai.
“Bydd sefydlu Canolfan Iechyd newydd nid yn unig yn denu swyddi i ganol y ddinas ac yn cryfhau'r economi leol ond bydd hefyd yn lleddfu'r pwysau ar ysbytai presennol, gan gyfrannu at wella gwasanaethau gofal iechyd i bobl leol.”
‘Edrych ymlaen’
Dywedodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething mai’r nod oedd diogelu sector manwerthu ynghanol y dref.
“Rwy’n falch o weld bod y Cyngor yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod ystod newydd o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yng nghanol y ddinas, fel rhan o ymdrechion i gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant yn sector manwerthu’r ddinas,” meddai.
“Mae’n arbennig o braf gweld Cyngor Gwynedd yn cymryd camau pwysig i sicrhau defnydd newydd ar gyfer safleoedd canol dinas sy’n cael eu tanddefnyddio.
“Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd eu cynlluniau’n datblygu dros y misoedd nesaf.”