Cyhoeddi enw dyn fu farw yn Noc Penfro ddydd Sadwrn

02/06/2021
Google Street View
NS4C

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw dyn fu farw'n sydyn yn Noc Penfro yn ystod oriau cynnar dydd Sadwrn 29 Mai.

Roedd Michael Edgar yn 27 oed ag yn dod o'r ardal.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'w farwolaeth yn Stryd Laws ac mae swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth i aelodau o'i deulu.

Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd ac mae Heddlu Dyfed-Powys wedi galw ar y cyhoedd i beidio â dyfalu am amgylchiadau'r farwolaeth ond i gysylltu gyda'r llu os oes gwybodaeth berthnasol i'w rannu.

Mae dau ddyn oedd wedi eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.