
Rhys Iorwerth yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Rhys Iorwerth yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.
Daeth y bardd o Gaernarfon i’r brig mewn cystadleuaeth "uchel tu hwnt ei safon" medd y beirniaid, gyda 42 o geisiadau i gyd.
Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Elin Mair Roberts ac fe gafodd ei chyflwyno am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Rhyddid’.
Y beirniaid eleni oedd Jason Walford Davies, Elinor Wyn Reynolds a Marged Haycock.
Un o fabis ffŵl Ebrill ydy Rhys Iorwerth. Eleni, roedd diwrnod ei ben-blwydd yn ddiwrnod o ganu’n iach. A hithau’n ddyddiad cau, ffarweliodd, dros dro, â cherddi’r Goron. Ond dywedodd ‘hwyl fawr’ hefyd, ychydig yn fwy terfynol, wrth ei dridegau.

Treganna, Glan-yr-afon a Bae Caerdydd oedd ei gynefin ar ddechrau’r degawd hwnnw. Roedd Rhys yn ymchwilydd i’r Cynulliad Cenedlaethol, a newydd ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011. Yn y brifddinas hefyd y graddiodd yn y Gymraeg ychydig flynyddoedd ynghynt.
Erbyn hyn, mae’n gyfieithydd ac yn awdur llawrydd yn ôl yn nhref ei fagwraeth yng Nghaernarfon.
Mae’n rhannu’i aelwyd â Siwan, ei wraig, a Magw ac Idwal, sy’n dair a dwy oed. I lawr y lôn, mae cartref ei rieni, sydd wastad wedi bod ymhlith ei feirniaid llenyddol mwyaf gonest a chraff.
Cystadleuaeth 'uchel tu hwnt ei safon'
Wrth draddodi o’r llwyfan, dywedodd Jason Walford Davies: “Mae’n amlwg fod medru arddel y teitl ‘Prifardd Coronog Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd’ wedi bod yn atyniad pwerus, oherwydd ymatebodd 42 o ymgeiswyr i’r her eleni o lunio pryddest neu gasgliad o gerddi ar y testun ‘Rhyddid’.
“Fe saif un ar wahân i’r gweddill. Mae Gregor yn mynegi rhai o’r un pryderon amgylcheddol â Buan, a hefyd yn lleisio’r un ofnau canol oed; ond mae’r llais yn aeddfetach, fel y sylwodd Marged, y cerddi’n wyrthiol o gryno, ac mae unoliaeth thematig y gwaith yn dynnach.
“At hyn, Gregor yw crefftwr gorau’r gystadleuaeth, a chanddo ef y mae’r afael gadarnaf ar ofynion rhythmig barddoniaeth. Mae’n sicr fod yr apocalyps amgylcheddol a niwclear a ddychmygir yn y casgliad hwn gymaint â hynny’n fwy arswydlon o gael ei ddisgrifio mewn modd mor aflonyddol-dawel.

“Meddai’r bardd: ‘Os daw’r consgriptwyr ar dy ôl, fy mab,/ wrth i’r dronau/ sganio dros Segontiwm, wrth i ti/ chwilio am solas yn y cof am dy fam/ a’r rotorau’n wylofain/ dros Ben Twtil’.
“Ac fel y dywed Elinor, ‘mae’r cyfan yn anghysurus o berthnasol’: hynny yw, wrth wraidd portread Gregor o argyfwng amgylcheddol byd-eang y mae’r pwyslais cyson ar y trychineb yn ei weddau lleol, teuluol – a phenodol Gymraeg.
“Yng ngherdd agoriadol drawiadol y casgliad, ceir cyfeiriadau at y Fenai’n codi dros draed ‘plantos’ y llefarydd, ac at y ffaith mai ‘sgrechfeydd’ fydd eu ‘Cymraeg olaf’. Y mae sawl agwedd ar ryddid – a chaethiwed – yn dod i rym yn y fan hon. Yr hyn a geir gan Gregor yw enghraifft loyw o fewnoli’r testun gosod i’r fath raddau nes bod ‘pwnc’ arwynebol yn troi’n rhan fywiol o weadwaith yr iaith a’r meddwl.
“Yr ydym, fel beirniaid, oll yn gytûn fod Arhosyn, Buan, Gregor, a hefyd Un (a osodir gan Marged ar y blaen i’r cystadleuwyr eraill sydd ar y ffin â’r Dosbarth Cyntaf) yn gwbl deilwng o’r Goron. Pedwar felly.
“Ond ry’n ni’n unfryd mai Gregor, heb os, sy’n rhagori. Esgorodd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ar gystadleuaeth uchel tu hwnt ei safon, ac ar sail hynny mae’r enillydd eleni yn haeddu clod arbennig. Yr enillydd hwnnw yw Gregor. Diolch yn fawr.
Gwobrau
Enillodd Rhys Iorwerth Wobr Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2015, Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd yn 2020, a Gwobr Goffa Dic Jones am gywydd gorau Y Talwrn ar BBC Radio Cymru deirgwaith.
Ac yntau’n un o’r sefydlwyr, mae gan nosweithiau Bragdy’r Beirdd le annwyl yn ei galon. Mae cwmnïaeth ei gyd-feirdd – mewn talwrn ac ymryson, dosbarth a darlleniad – hefyd yn bwysig iddo. Y tu hwnt i’r byd hwnnw, mae timau pêl-droed Cymru a Lerpwl, coginio, a rhedeg a seiclo’n mynd â’i fryd.
Y Lôn Goed
Y Lôn Goed, y llwybr hanesyddol pwysig sy'n ffinio Llŷn ac Eifionydd yw canolbwynt y Goron eleni, a defnyddiwyd ei ffiniau fel sail iddi. Efelychir y gweadau a welir yng nghefn gwlad mewn arian arni, ac fe gynrychiolir cyfoeth tir yr ardal yn neunydd gwyrdd y benwisg.
Cynrychiolir ffiniau rhwng ffermydd a thiroedd, yn ogystal â’r gwrychoedd a’r waliau cerrig a welir yn draddodiadol yn ardaloedd yr Eisteddfod ar y Goron hefyd. Gwrychoedd sy’n nodweddiadol yn Llŷn a waliau cerrig yn Eifionydd. Mae ‘ffin’ yn warchodol i fyd amaeth, a’r bwriad oedd amlygu hyn yn y dyluniad.

Ychwanegodd Elin Mair ddarn o’i gemwaith i’r dyluniad hefyd, sef cennin pedr wedi’i wneud o aur melyn 18ct.
Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod ar ôl y seremoni, a bydd modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.