12,000 o swyddi yn y fantol wrth i gwmni Wilko baratoi i fynd i ddwylo gweinyddwyr
Mae 12,000 o swyddi yn y fantol wrth i gwmni Wilko baratoi i fynd i ddwylo gweinyddwyr.
Dywedodd Prif Weithredwr y cwmni, Mark Jackson, ei fod wedi derbyn cynigion gan ddarpar-brynwyr, ond nad oedd yr un yn ateb eu gofynion.
Ychwanegodd bod y cwmni, sydd a 25 o siopau yng Nghymru, dan "bwysau ariannol cynyddol".
“Yn anffodus, gyda hwn mewn golwg, mae’n rhaid i ni wneud y penderfyniad anodd i ffeilio hysbysiad o fwriad," meddai.
“Byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau gyda'r rhai sydd â diddordeb, gyda’r nod o ddod i gytundeb sy’n cadw’r busnes, a byddwn yn annog y rhai rydym yn trafod â nhw i symud mor gyflym â phosibl.
“Rydym yn parhau i gredu y bydd ein cynllun gweddnewid cadarn, yn sicrhau Wilko fydd yn creu elw ac yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sylweddol sy’n bodoli.”
Mae gan Wilko, sy'n gwerthu nwyddau i'r cartref, 400 o siopau yng ngwledydd Prydain