Beirniadu proses ad-drefnu uwch gynghrair pêl-droed merched Cymru

Beirniadu proses ad-drefnu uwch gynghrair pêl-droed merched Cymru
Er gwaethaf dyrchafiad a llwyddo i gadw eu lle yn y gynghrair y tymor diwethaf mae tîm merched Cascades yng nghyd â chlybiau Llansawel a'r Fenni wedi eu hanfon i lawr i'r ail haen.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ad-drefnu uwch gynghrair pêl-droed merched Cymru.
Yn ôl Amelia Mills sy'n chwarae i dîm Cascade mae'r penderfyniad wedi "achosi tristwch i'r clwb."
"Mae popeth oddi ar y cae di cyfri a dim byd ar y cae wedi cyfri a ma' hwnna'n rili annheg, dim jyst ar y chwaraewyr, ond yr holl clwb a'r staff."
Mae hefyd yn pryderu gall y penderfyniad effeithio ar ddatblygu chwaraewyr iau.
"Gallen ni colli 'Under 19's' cyn i nhw hyd yn oed cael cyfle i chwarae, a bod timoedd arall yn cymryd lle ni yn yr uwch gynghrair heb hyd yn oed cystadlu."
Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn mynnu bod y borses wedi bod yn un deg.
"Gyda proses fel hyn mae'n anodd iawn achos mae 'na wastad mynd i fod timau sydd ddim yn cael i fewn," eglura Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed merched y Gymdeithas Bêl-droed.
"'Da ni yn deall bod 'na lot iawn o emosiwn gyda'r chwaraewyr a'r clybiau sydd ddim wedi cael fewn i'r uwch adran ar hyn o bryd, a 'da ni'n edrych i gweithio gyda nhw yn yr ail gynghrair rŵan."