‘Love Island’ Cymru? Pryder am ormod o dwristiaid ar Ynys Llanddwyn

26/07/2023
Ynys Llanddwyn

Mae pryderon bod gormod o dwristiaid yn ymweld ag Ynys Llanddwyn oddi ar arfordir Môn.

Yn ôl y chwedl, yno yr oedd nawddsant cariadon Cymru, Santes Dwynwen, yn byw yn y 5ed ganrif.

Ond mae “llif” cyson o dwristiaid yn achosi problemau traffig ym mhentref Niwbwrch gerllaw, yn ôl cynghorwyr.

Dywedodd Cynghorydd Bro Aberffraw, John Ifan Jones bod “traeth Llanddwyn mor boblogaidd fel bod y pentref wedi torri”.

Dywedodd wrth Bwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio cyngor yr ynys bod pentrefwyr yn cael trafferth “mynd a char drwy’r pentref” ar adegau prysur.

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees mewn cyfarfod o'r cyngor bod y “twf mewn ymwelwyr yn rhoi pwysau ar y gymuned leol”.

“Allwn ni ddim gadael i dwristiaeth dyfu o hyd, mae’n rhaid i ni ei reoli mewn ffordd gynaliadwy,” meddai.

“Mae yna lif cyson o ymwelwyr yn dod i draeth Llanddwyn.”

‘Ddim yn unigryw’

Dywedodd un person sy’n byw yn lleol nad oedd am gael ei enwi wrth y gwasanaeth gohebu ar ddemocratiaeth leol bod y traffig wedi mynd yn “hunllef”.

“Mae’n effeithio ar y groesfan wrth ganol y pentref ac mae’r traffig yn adeiladu,” meddai.

“Mae’n arbennig o wael yn yr haf ond mae’n gallu digwydd ar ddiwrnod heulog unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.”

Ond dywedodd Christian Branch, pennaeth rheoleiddio a datblygu economaidd y cyngor, nad oedd yn credu bod y problemau yn Niwbwrch yn “unigryw” i’r pentref.

Roedd pentrefi eraill hefyd yn cael eu heffeithio gan dwristiaeth ar yr ynys, meddai, a bod angen “cynllun tymor hir i fynd i’r afael â’r math yma o bryderon”.

Llun: Ynys Llanddwyn gan Llinos Dafydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.