Cyhuddo dyn mewn cyswllt anuniongyrchol â gwrthdrawiad angheuol Llaneirwg
Cyhoeddodd Heddlu'r De y bydd dyn yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mercher, fel rhan o'u hymchwiliad i wrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A48 yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd ar 4 Mawrth.
Mae Joel Samuel Lia o Dredelerch, Caerdydd wedi ei gyhuddo o yrru heb drwydded nac yswiriant ym Mhorthcawl ar 4 Mawrth.
Dywedodd yr heddlu nad yw'r troseddau hyn yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad car angheuol am 02.03 fore Sadwrn 4 Mawrth, pan fu farw'r gyrrwr Rafel Jeanne a'r teithwyr Darcy Ross ac Eve Smith.
Yn ôl yr heddlu, cafodd y troseddau honedig eu darganfod gan blismyn a oedd ymchwilio i'r gwrthdrawiad yn Llaneirwg, ac mae'n ymwneud â'r un cerbyd.
Roedd y menywod ifanc a oedd yn teithio yn y car a fu mewn gwrthdrawiad yn Llaneirwg wedi eu gweld ddiwethaf yng Nghaerdydd yn ystod oriau man fore Sadwrn, ar ôl iddyn nhw fod ym Mhorthcawl rai oriau ynghynt.