Newyddion S4C

Mari Grug yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron

24/07/2023
Mari Grug

Mae'r gyflwynwraig Mari Grug wedi galw ar eraill i gysylltu efo meddyg yn syth os oes newidiadau i’w corff wrth ddatgelu fod ganddi ganser y fron.

Cyhoeddodd y cyflwynydd sy’n wyneb cyfarwydd ar Heno a Prynhawn Da ac ar draws sioeau S4C ei bod hi wedi cael diagnosis ym mis Mai a’i fod ers hynny wedi lledu i’r nodau lymff a’i hafu.

“Ma’ nhw’n taflu popeth ata'i, sawl dos o Chemo a sawl llawdriniaeth o fy mlaen ond teimlo’n bositif ac yn benderfynol o ymladd hwn!” meddai mewn neges ar Instagram.

“Ma’r tri bach yn cadw fi fynd, Gareth fel y graig ac mor lwcus i gael fy amgylchynu gyda theulu a ffrindiau arbennig."

Image
Mari Grug
Neges Mari Grug ar Instagram

“I unrhyw un sy’n darllen hwn ac yn poeni am newidiadau i’w corff, ewch i weld eich meddyg yn syth," meddai Mari Grug.

“Fe wnes i ffeindio lwmpyn canol Ebrill mynd i’r Doctor cwpwl o ddyddiau yn ddiweddarach ac yna i Lanelli cyn diwedd y mis.

“Ond bu’n rhaid i fi aros tipyn o amser i gael scans a chanlyniadau’r scans cyn dechrau triniaeth.

“Dwi’n gytted i golli’r Sioe eleni a pheidio cael cyflwyno Heno wythnos hon. Ond ‘dwi yn gobeithio parhau i weithio ychydig dros y misoedd nesa, cyflwyno Heno ac ambell Bore Cothi tra byddai’n gallu.

“Diolch i bawb am yr holl negeseuon ‘dwi wedi derbyn dros yr wythnosau diwethaf. Chi’n cadw fi fynd gyda’ch caredigrwydd.”

Ar ddechrau darllediad rhaglen Heno o'r sioe yn Llanelwedd nos Lun, dywedodd y cyflwynydd Alun Williams ei fod yn meddwl am ei gyd-gyflwynydd a bod Mari yn "caru'r" Sioe Fawr. Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen i gyd-gyflwyno gyda Mari pan ddaw "yn ôl i'r soffa yn Llanelli yn fuan iawn." 

Llun gan Heno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.