Y darlledwr George Alagiah wedi marw yn 67 oed
Mae'r darlledwr George Alagiah wedi marw yn 67 oed ar ôl dioddef o ganser y coluddyn.
Dywedodd datganiad gan ei asiant, Mary Greenham: “Mae’n ddrwg iawn gen i roi gwybod i chi fod George Alagiah wedi marw’n heddychlon heddiw, wedi’i amgylchynu gan ei deulu a’i anwyliaid.
“Brwydrodd George tan y diwedd ond yn anffodus daeth y frwydr honno i ben yn gynharach heddiw.
“Roedd George wedi ei garu’n fawr gan bawb oedd yn ei adnabod, boed yn ffrind, yn gydweithiwr neu’n aelod o’r cyhoedd. Yn syml, roedd yn berson arbennig.
“Mae fy meddyliau i gyda Fran, y bechgyn a’i deulu ehangach.”
Ym mis Ebrill 2014 cafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn cam pedwar, a oedd wedi lledu i’w iau a’i nodau lymff.
Cafodd ddwy rownd o gemotherapi a sawl llawdriniaeth, gan gynnwys tynnu'r rhan fwyaf o'i iau.
Ym mis Hydref 2015 cyhoeddodd fod ei driniaeth ar ben a dychwelodd i BBC News At Six ar Dachwedd 10.
Dychwelodd ei ganser ym mis Rhagfyr 2017 a chafodd driniaeth bellach cyn dychwelyd i'r gwaith eto.
Cymerodd seibiant arall o’i ddyletswyddau stiwdio ym mis Hydref 2021 i ddelio â lledaeniad pellach o ganser, cyn dychwelyd ym mis Ebrill 2022.
'Gwybod fy mod i'n marw'
Wrth ymddangos mewn ymgyrch er budd Cymorth Canser Macmillan yn 2022, dywedodd Alagiah: “Mae pobl bob amser yn gofyn i mi sut rydw i’n ymdopi a dyma’r cwestiwn anoddaf.
“Yr her i ddechrau oedd cael fy niagnosis canser yn syth yn fy mhen – er bod cymaint yn mynd o fy mhlaid i, fel gyrfa lwyddiannus a theulu cariadus, dyma fi’n cael gwybod fy mod i’n marw.”
Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd Alagiah ei fod yn cymryd saib o gyflwyno News At Six y BBC yn dilyn sgan arall.
Meddai: “Dangosodd sgan diweddar fod fy nghanser wedi lledu ymhellach. Rwy'n colli fy nghydweithwyr. Mae gweithio yn yr ystafell newyddion wedi bod yn rhan mor bwysig o gadw egni a chadw i fynd."
Mae'n gadael ei wraig, Frances Robathan, a dau o blant.
Gyrfa ddisglair
Roedd y darlledwr a gafodd ei eni yn Sri Lanka yn wyneb cyfarwydd ar News At Six ar BBC One ers 2007.
Ymunodd Alagiah â’r BBC ym 1989 a threuliodd flynyddoedd lawer fel un o ohebwyr tramor mwyaf blaenllaw’r gorfforaeth cyn symud i gyflwyno.
Dechreuodd gynnal y bwletin newyddion am 6pm yn gynnar yn 2003, ond camodd i'r blaen ar ei ben ei hun bedair blynedd yn ddiweddarach yn dilyn ymadawiad ei gyd-westeiwr, Natasha Kaplinsky.
Cyn hynny roedd yn ohebydd tramor amlwg, yn aml fel arbenigwr yn Affrica gyda sylw i ryfeloedd cartref yn Somalia a Liberia yn ogystal â'r hil-laddiad yn Rwanda 20 mlynedd yn ôl.
Trwy gydol ei yrfa bu'n cyfweld â ffigyrau gwleidyddol canolog, yn eu plith cyn-arlywydd De Affrica Nelson Mandela, yr Archesgob Desmond Tutu, a chyn-arweinydd Zimbabwe Robert Mugabe.
Cyn ymuno â'r BBC, bu Alagiah yn gweithio fel newyddiadurwr print ac aeth ymlaen i ysgrifennu nifer o lyfrau gan gynnwys A Home From Home, a oedd yn edrych ar yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Brydeinig.
Drwy gydol ei yrfa ddisglair, cyflwynodd hefyd sioeau eraill fel Mixed Britannia, gan edrych ar boblogaeth hil gymysg y DU.
Cafodd OBE yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2008.