Newyddion S4C

‘Poen ofnadwy’: Ystyried hedfan dramor oherwydd prinder deintyddion drwy’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru

23/07/2023

‘Poen ofnadwy’: Ystyried hedfan dramor oherwydd prinder deintyddion drwy’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru

“Ro’n i mewn poen ofnadwy – fe wnes i drio cael drwodd i fy neintydd, a phob un arall, ond ches i ddim lwc.”

Mae Benita Brittain, 59 oed, o Ystalyfera, yn dweud iddi "beidio gallu bwyta na chysgu" am gyfnod oherwydd y poen yr oedd yn ei ddioddef gyda’i dannedd.

Roedd pethau mor wael i'r fam-gu nes ei bod hi wedi ystyried teithio i Dwrci am driniaeth am nad oedd yn gallu cael apwyntiad drwy’r gwasanaeth iechyd, meddai wrth Newyddion S4C.

Roedd hi wedi bod gyda chapiau a phinnau yn ei dannedd gwaelod ers iddi ddioddef damwain wrth chwarae rygbi fel plentyn.

Ond fe aeth y poen o ddrwg i waeth yn yr wythnosau diweddar, a’i gorfodi i ystyried mynd yn breifat.

“Roedd e’n costi’r un faint i fynd i Dwrci a chael y driniaeth yno, hyd yn oed gyda’r flights a phopeth,” meddai.

Ac nid hi yw’r unig un sydd yn y fath sefyllfa, meddai elusen Age Cymru.

Yn ôl arolwg gan yr elusen, fe wnaeth pedwar allan o bob pump o bobl dros 50 ddweud eu bod wedi cael profiad negyddol wrth geisio cael mynediad i wasanaethau deintyddol.

‘Poen ofnadwy’

Dywedodd Benita Brittain ei bod hi wedi ceisio cael apwyntiadau yn ei deintyddfa yng Nghwm Tawe dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae sawl un wedi cael ei ohirio ar fyr rybudd – “cyn lleied â 10 munud weithiau”.

Fe gofrestrodd Ms Brittain gyda deintyddfa arall yn yr ardal ychydig o fisoedd yn ôl, a chael ei rhoi ar y rhestr aros.

Ond ar ôl cysylltu gyda nhw eto yn sgil ei phoenau diweddar, fe ddywedon nhw wrthi fod y deintyddfa bellach wedi stopio cymryd cleifion drwy’r GIG.

“Tan wythnos diwethaf, nid oeddwn i’n gallu bwyta na chysgu, felly ffoniais y deintydd yng Nghrynant, oherwydd fy mod i ar y rhestr aros NHS yno,” meddai.

“Nes i ofyn lle oeddwn i ar y rhestr, a ges i ateb ‘mae gennym dri llyfr lawn. Fyddwn i byth yn gallu dod o hyd i ti, a beth bynnag, mae’r llyfrau ar gau nawr.

“Gofynnais, ‘beth mae hynny’n feddwl? Ydi’r rhestr aros wedi cael ei waredu?’ - ‘wel ydi, mwy neu lai’, dywedon nhw.

“Gofynnais am gyngor i gael deintydd arall, ond dywedon nhw os fyswn yn talu £70, mi fyswn yn cael apwyntiad ymghoriad.

“Felly un eiliad maen nhw’n dweud, ‘na sori, allwn ni ddim ffitio ti i mewn oherwydd y backlog o Covid, yr eiliad nesaf, ‘os wyt ti’n talu £70, nawn ni dy weld mewn hanner awr.”

Image
Benita Brittain
Mae Ms Brittain wedi bod gyda chapiau a phinnau yn ei dannedd gwaelod ers yn blentyn.

'Cymryd mantais'

Er gwaethaf ei hymdrechion, nid oes unrhyw deintyddfeydd yn yr ardal yn cymryd cleifion drwy’r Gwasanaeth Iechyd, felly penderfynodd fynd am apwyntiad preifat.

Ond fe ddywedodd y deintydd fe fyddai’r driniaeth sydd ei angen ar Ms Brittain yn costio £1,300.

Fe benderfynodd werthu rhai o’i phethau er mwyn ceisio codi arian ar gyfer y driniaeth.

“Galla’i ddim fforddio gwneud hynny ond dwi am werthu fy meic electrtic i geisio codi arian,” meddai.

“Dyw e ddim yn scam ond maen nhw’n cymryd mantais o bobl fregus, just am arian. A does dim byd yn cael ei dweud am y peth.”

Mae hi’n benderfynol bellach o ganfod deintydd drwy’r GIG, hyd yn oed os yw’n golygu teithio i Brifysgol Caerdydd i gael triniaeth gan fyfyrwyr.

“Fe wnaeth pobl dderbyn y peth yn ystod Covid, oherwydd bod yr NHS dan shwd bwysau, ond mae hwnna wedi mynd nawr a dyle pethau newid,” meddai.

“Os dy’n ni ddim yn gwneud unrhyw beth ambyti fe, mae’n mynd i fod y norm, a dyle fe ddim bod y norm.

“Ry’n ni ‘di gweithio’n galed drwy’n bywydau ac mae’r wlad yn arna i ni gofal meddygol a deintyddol iawn.

“Dwi’n cael yr un profiad gyda’r doctor, dw i byth yn gallu cael one-to-one ddim mwy. Fi’n ffonio’r doctor am 8.30 yn y bore ti’n cael ‘sori, mae’r rhestr yn llawn, ffoniwch nôl fory.

“Mae’r un peth gyda biliau trydan a gas hefyd. Mae pobl angen siarad amdano o achos mae’n digwydd ym mhob rhan o’n bywydau a ‘da ni’n cymryd e - ond dylwn ni ddim. Dim i ni nag i blant y dyfodol.”

Image
Rhian Morgan, Swyddog Materion Cyhoeddus Age Cymru
Rhian Morgan, Swyddog Materion Cyhoeddus dros Age Cymru

Effaith y pandemig

Fe gysylltodd Ms Brittain gyda Age Cymru i gael cyngor ar sut i ddod o hyd i wasanaeth deintyddol yn ei hardal.

Dywedodd yr elusen wrth Newyddion S4C fod eu harolwg diweddar yn awgrymu fod:

  • Rhai pobol hŷn wedi gorfod cymryd benthyciadau i dalu am filiau deintyddol, neu fenthyg arian gan deulu. Roedd un person wedi cymryd benthyciad o bron i £2,000 ar ôl mynd yn breifat i dderbyn triniaeth brys.
     
  • Un person wedi gorfod teithio pedair awr a hanner i weld deintydd drwy’r gwasanaeth iechyd.
     
  • Pryderon am ddiffyg cyfathrebu wrth i ddeintyddfeydd newid o fod yn rhai dan y Gwasanaeth Iechyd i fod yn breifat.

Dywedodd Rhian Morgan, Swyddog Materion Cyhoeddus dros Age Cymru: “Fe glywson ni am stori Benita pan wnaeth hi gysylltu gyda’n gwasanaeth cyngor yn ceisio dod o hyd i wasanaeth deintyddol trwy’r GIG yn ei hardal.

"Ni wedi gweld cwpwl o broblemau yn ein harolwg blynyddol.

“Ni wedi gweld fod pedwar ym mhob pump o bobl hyn yn methu gweld deintydd ar y gwasanaeth iechyd.

“Mae’r pandemig wedi gwaethygu’r gwasanaeth a phobl methu gweld y deintydd, neu mae’n rhaid iddyn nhw fynd yn breifat.

“Mae Age Cymru yn gweithio gyda phobl hŷn ar draws Gymru gyfan. Mae problemau efo diffyg practices NHS.

“Mae’r practices yma yn gwneud gwaith da ac mae'n rhaid rhoi chwarae teg iddyn nhw, ond mae lot o bobl wedi dweud wrthon ni fod nhw ddim yn cael lot o gyfathrebu os ydi’r practice yn newid o fod yn un drwy’r Gwasanaeth Iechyd i fod yn un preifat, ac mae hynny’n cael effaith arnyn nhw.

“Mae deintyddion drw’r Gwasanaeth iechyd yn gwneud gwaith da, ac fel canlyniad, mae mwy o bobol hyn yn cadw eu dannedd naturiol.

“Ond gyda hynny, mae’n rhaid iddyn nhw weld y deintydd mwy aml, achos oedran y dannedd ac i’r deintydd checio iechyd y geg ac os mae symptomau canser y geg yna.

“Felly mae’n rhaid i ni edrych ar gael system sydd yn gyfartal i bawb.

“Mae’r pandemig wedi gwneud gwasanaeth gwael yn waeth, gyda backlog o apwyntiadau a dyw pobl methu cael apwyntiad.

“Trwy ein llinell cymorth ni, arolwg blynyddol a gwasanaethau cymorth, ni yn clywed gan fwy a mwy o bobol bod nhw methu cael apwyntiad gyda deintydd drwy’r gwasanaeth iechyd o gwbl.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe ei fod yn “ddrwg gennym glywed am y pryderon hyn”.

“Fe wnaeth y pandemig ein cyfyngu’n ddifrifol ar fynediad i wasanaethau deintyddol yn genedlaethol, yn bennaf oherwydd canllawiau llym ar reoli heintiau,” meddai.

“Y llynedd cynigiwyd mwy na 32,000 o apwyntiadau i gleifion newydd yn neintyddfeydd Bae Abertawe a ymunodd â rhaglen diwygio Llywodraeth Cymru. Roedd hyn ymhell uwchlaw'r targed.

“Gall pobl sy’n chwilio am ddeintydd GIG ar gyfer gofal arferol gysylltu ag unrhyw bractis ac, os na ellir cynnig apwyntiad yn syth, gofyn am gael eu rhoi ar y rhestr aros.

“Does dim cyfyngiad ar nifer y rhestrau aros y gallant ymuno â nhw. Cysylltir â nhw unwaith y bydd apwyntiad ar gael gan bractis.

“Dylai unrhyw un heb ddeintydd rheolaidd sydd angen apwyntiad brys ddefnyddio 111.

“Bydd cleifion priodol yn cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Mynediad Deintyddol Brys.”

Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru: “Rydym wedi cynyddu’r cyllid ar gyfer deintyddiaeth o fwy na £27m o gymharu â 2018-19, gan gynnwys £2m ychwanegol y flwyddyn ers y llynedd i fyrddau iechyd fynd i’r afael â materion mynediad lleol.

“Derbyniodd bron i 174,000 o gleifion apwyntiad y llynedd, oedd yn hanesyddol heb allu cael apwyntiad deintyddol.

“Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio menter recriwtio leol newydd o’r enw WERO (Cynnig Recriwtio Gwell ar gyfer Deintyddiaeth), sy’n cynnig pecyn cymorth gwell i bobl sy’n cwblhau hyfforddiant deintyddol sylfaen mewn deintyddfeydd gwledig penodol yng Ngorllewin, Gogledd a Chanolbarth Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.