Jeremy Clarkson yn rhybuddio y gallai rhai o'i boteli seidr 'ffrwydro'
Mae Jeremy Clarkson wedi rhybuddio pobl sydd wedi prynu ei boteli seidr gan ddweud y gallai'r ddiod 'ffrwydro'.
Mae'r cyflwynydd 63 oed wedi denu cefnogwyr newydd drwy ei sioe boblogaidd Clarkson's Farm ar Amazon Prime sy'n dangos y gwaith sy'n mynd ymlaen ar ei ffarm 1,000 acer yn y Cotswolds.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd fod yna "gamgymeriad mawr wedi bod ac o ganlyniad, mae yna bosibilrwydd bach y gallai rhai o'n poteli Seidr Hawkstone ni, a does dim ffordd hawdd o ddweud hyn, ffrwydro.
"Os oes gan y cap y côd L3160, yna dylech chi ei agor o dan ddŵr, ei dywallt a chysylltu â ni er mwyn cael eich pres yn ôl."
Eglurodd y cwmni Hawkstone fod y broblem yn sgil "swm bach o seidr" yn "gor-eplesu."
Cafodd y busnes diod ei lansio yn 2021, gyda'r cynhwysion yn dod yn uniongyrchol o fferm Mr Clarkson, Diddly Squat, yn Chipping Norton.
Mae cyfres ddiweddaraf Mr Clarkson ar Amazon yn dangos y ffarm yn cael anifeiliaid a chnydau newydd yn ogystal â dangos cyfarfodydd gyda'r cyngor lleol am gynllunio.
Prynodd Mr Clarkson y ffarm yn 2008, gan ddechrau ei rhedeg ei hun yn 2019, ond mae wedi derbyn ymateb gwael gan rai yn y pentref wedi iddo geisio ehangu ei fusnes gyda siop ffarm a bwyty.