Y cyn Aelod Seneddol Llafur Ann Clwyd wedi marw yn 86 oed

22/07/2023

Y cyn Aelod Seneddol Llafur Ann Clwyd wedi marw yn 86 oed

Mae'r cyn Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, Ann Clwyd, wedi marw yn 86 oed. 

Fe wnaeth gynrychioli etholaeth Cwm Cynon am 35 mlynedd o 1984 i 2019. 

Er ei bod wedi bwriadu camu lawr fel AS yn 2015, cafodd ei hail-ethol y flwyddyn honno, ac yn etholiad 2017.

Ann Clwyd oedd yr Aelod Seneddol benywaidd hynaf yn Nhŷ'r Cyffredin cyn iddi gamu lawr yn 2019.

Roedd hefyd yn Aelod o Senedd Ewrop (MEP) ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 1979 ac 1984.

Cafodd ei hethol i'r Senedd yn sgil is-etholiad ym mis Mai 1984 yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Ioan Evans, gan olygu mai hi oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli etholaeth yn y Cymoedd.

Fe wnaeth hefyd wasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Addysg yr Wrthblaid ac Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yr Wrthblaid. 

Cafodd hefyd ei phenodi yn Lysgennad Hawliau Dynol Irac yn ystod cyfnod Tony Blair fel Prif Weinidog.

Fe gafodd ei geni a’i magu ym Mhentref Helygain, yn Sir y Fflint.

Fe gafodd ei haddysgu yn Ysgol Gramadeg Treffynnon ac yn Ysgol y Frenhines, yng Nghaer, cyn derbyn gradd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Cyn ei gyrfa fel gwleidydd, cafodd ei hyfforddi i fod yn athrawes, cyn gweithio fel newyddiadurwr i BBC Cymru, ac i'r Guardian a The Observer rhwng 1964-79.

Roedd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru rhwng 1975 a 1979.

Yn Eisteddfod Genedlaethol 1991 ym Mro Delyn, fe gafodd ei hurddo i Orsedd y Beirdd.

Mewn teyrnged iddi, dywedodd cyn arweinydd y Blaid Lafur Syr Tony Blair: "Roedd Ann yn ymgyrchydd dewr, di-ofn ac egwyddorol, ac roedd ei gwleidyddiaeth yn parhau i fod wedi ei chysylltu â chynrychiolaeth y tlawd lle bynnag yn y byd yr oedd yn dod o hyd iddynt.

"Doedd hi ddim yn meddwl ddwywaith am ddweud ei dweud, waeth beth oedd y gost bersonol neu wleidyddol.

"Roedd yn ymgyrchydd dewr ar gyfer gwell gofal iechyd, gan ddefnyddio ei phrofiad ei hun er mwyn dadlau ar ran eraill."

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan mewn teyrnged iddi fod Ann Clwyd yn "arloeswr a'r unig wleidydd benywaidd oedd yn fodel rôl yng Nghymru am gyfnod hir.

"Roedd yn radical yng ngwir ystyr y gair ac fe gafodd ei hysbrydoli gan ei blynyddoedd cynnar yn gwasanaethu fel Aelod Seneddol Ewropeaidd cyn mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth sylweddol yn San Steffan."

Mewn teyrnged iddi, dywedodd AS Llafur dros Gaerdydd Canolog Jo Stevens fod "Ann yn arloeswr i fenywod, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y DU a thramor.

"Yn benderfynol, angerddol ac yn dal ei thir, roedd yn dangos cryfder a chymeriad mawr."

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf Andrew Morgan ei fod yn “drist iawn i glywed fod Ann Clwyd wedi ein gadael dros nos. Roedd Ann wedi fy nghefnogi’n fawr ers i mi ddechrau yn y byd gwleidyddol.

"Roeddwn yn ystyried Ann fel ffrind da a rhywun oedd yn angerddol i helpu eraill.

“Cyn y Nadolig fe wnaeth rhai ohonom ni gael bwyd gydag Ann a oedd mor siarp ag erioed. Cwsg yn dawel Ann.”

Ychwanegodd Arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn "hynod drist o glywed am farwolaeth Ann Clwyd.

"Roedd yn gwasanaethu pobl Cwm Cynon yn angerddol a bydd yn cael ei cholli yn ofnadwy."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.