
Pryder busnesau wrth i Ŵyl Fwyd Merthyr ddychwelyd mewn cyfnod ariannol 'caled'
Mae Gŵyl Fwyd Merthyr yn dychwelyd i’r dre’ unwaith eto eleni, a hynny am yr ail dro ers y cyfnod clo.
Ond er bod disgwyl i sawl un edrych ymlaen at flasu’r ystod eang o fwydydd sydd ar gael, mae rhai busnesau wedi mynegi pryder na fydd trigolion lleol yn fodlon gwario eu harian yn sgil cyfnod ariannol “caled iawn, iawn".
Wrth i gostau ynni a nwyddau barhau i gynyddu, mae busnesau bach ledled y wlad wedi gorfod codi prisiau eu cynnyrch.
Yn sgil hynny, mae pryder y bydd ymwelwyr yr ŵyl yn “fwy gofalus” wrth ddewis a dethol eu hoff fwydydd, medd un perchennog siop o Lanelli.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Helen Williams sydd ar faes yr ŵyl gyda’i stondin, Lili Wen Welshcakes: “Yn anffodus, yn sgil y cyfnod diweddar o brisiau uchel mae pob busnes wedi gorfod codi prisiau.
Bu’n pryderu hefyd y bydd llai o drigolion yn mentro allan i ymweld â’r ŵyl, gyda rhagolygon tywydd gwael yn bygwth amharu.
“I fod yn onest, yn fy marn i, mae pob achlysur hyd yn hyn wedi bod mwy tawel ac mae yn amlwg bod y cwsmeriaid yn fwy gofalus o beth maen nhw yn gwario eu harian arno,” ychwanegodd Ms Williams.

‘Byd o wahaniaeth’
Ond mae canmoliaeth hefyd i drefnwyr yr ŵyl, sef The Big Heart of Merthyr, am gynnig mynediad i’r ŵyl yn rhad ac am ddim – a hynny er bod yr esgid yn gwasgu.
Dywedodd Lauren Evans, sef Rheolwr Gyfarwyddwr Fablas Ice Cream ym Mhontfaen: “Ry'n ni mewn cyfnod caled iawn, iawn ar hyn o bryd.
“’Dyn ni’n wynebu dirwasgiad ac mae’n anodd. Nwyddau, prisiau ynni – does dim lawer o gynhyrchwyr bwyd Cymreig o gwmpas ar hyn o bryd felly chwarae teg i’r trefnwyr am gynnal yr ŵyl.
“Mae mynediad am ddim yn gwneud byd o wahaniaeth. Mae gan bobl yr arian ychwanegol i wario erbyn iddyn nhw gyrraedd yr ŵyl wedyn ‘ny.
“Petai i chi gorfod talu am docyn – sy’n gallu bod rhwng oddeutu £15-£30 – a dweud bod teulu o bedwar ‘da chi, mae hwnna’n lot o arian cyn i chi hyd yn oed cyrraedd."
“Ond gyda gwyliau am ddim, mae gan bobl incwm gwario unwaith maen nhw’n trwy’r gatiau,” meddai.

Eleni, bydd dros 40 o stondinau bwyd a diod yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch Cymreig a thu hwnt, gan gynnwys pasta, tapas a phice ar y maen.
Bydd adloniant a cherddoriaeth fyw hefyd yn cael ei gynnal fel rhan o’r ŵyl, yn Sgwâr Penderyn.
Dywedodd rheolwr BID The Big Heart of Merthyr, Elizabeth Bedford: “Rydym yn gydnabod ei bod yn gyfnod heriol i nifer o ddiwydiannau yng Nghymru yn ystod y misoedd diweddar, ac rydym yn gobeithio y bydd trigolion yn ymweld â’r ŵyl dros y penwythnos a chefnogi busnesau lleol.
“Mae’r ŵyl wastad yn ddiwrnod arbennig ar gyfer y gymuned leol ac am ymwelwyr tu hwnt i’r dref.
“’Dyn ni’n ymgeisio i gynnwys canol y dre i gyd, ac nid Sgwâr Penderyn yn unig, gan ei fod yn arbennig i brofi ymwelwyr yn cefnogi busnesau lleol.”
Bydd Gŵyl Fwyd Merthyr yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn ar Sgwâr Penderyn, gan gychwyn am 10.00 a phara’r diwrnod cyfan.
Llun: We Love Merthyr/Facebook.