Siom i Gasnewydd yn Wembley
31/05/2021
Siom i Gasnewydd yn Wembley
Ni fydd clwb pêl-droed Casnewydd yn cael dyrchafiad yn dilyn siom yng ngemau ail gyfle Adran Dau ddydd Llun.
Bydd clwb pêl-droed Morecambe yn cael dyrchafiad i'r Adran Gyntaf am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl curo Casnewydd 1-0 wedi amser ychwanegol yn Wembley.
Sgoriodd Carlos Mendes Gomes unig gôl y gêm wedi cic o’r smotyn yn y 107fed munud.
Roedd Yr Alltudion wedi gallu sicrhau eu safle yn y rownd derfynol ar ôl gêm gyffrous yn erbyn Forest Green 23 Mai, gyda’r canlyniad o 5-4 dros y ddau gymal.
Daw hyn ddeuddydd wedi i Abertawe hefyd wynebu siom ar ôl colli yn erbyn Brentford o 2-0 yn yr un stadiwm ddydd Sadwrn.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans