Galwadau i Eisteddfodwyr drefnu trafnidiaeth adref o’r wŷl er mwyn diogelwch
Mae Eisteddfodwyr yn cael eu hannog i drefnu cludiant adref o’r ŵyl o flaen llaw er mwyn sicrhau diogelwch eu hunain ac eraill.
Wrth i Gyngor Gwynedd a’r Eisteddfod Genedlaethol drefnu trafnidiaeth ychwanegol i’r maes ac i aml leoliad tu hwnt i safle'r Eisteddfod, mae galwadau gan y cyngor i bobl hefyd ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gymaint ag sy’n bosib, er mwyn lleihau tagfeydd yn yr ardal.
Mae disgwyl i ddegau o filoedd o bobl deithio i’r maes ym Moduan eleni, wrth i’r Eisteddfod ddychwelyd i Ben Llŷn.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Amgylchedd: “Mae cymaint o edrych ymlaen at yr Eisteddfod a’r holl hwyl fydd gan yr ŵyl i’w gynnig.
“Ynghanol y miri, y peth pwysicaf oll ydi fod pawb yn cyrraedd adref yn saff ar y diwedd.
“Dwi’n erfyn ar bobl i wneud eu trefniadau o flaen llaw, yn enwedig os ydych yn bwriadu mwynhau’r cyngherddau, gigs a sioeau eraill fin nos.”
Trefniadau
Bydd gwasanaeth bws wennol ychwanegol yn rhedeg rhwng Pwllheli, Boduan a Nefyn (bws 8E), i gyd-redeg â’r gwasanaeth bws arferol rhwng Pwllheli, Nefyn a Thudweiliog (bws 8).
Bydd y bysus gwennol yn rhedeg yn rheolaidd trwy’r dydd, gan gychwyn a darfod yn yr arosafnnau bws arferol.
Bydd tri gwasanaeth bws hwyr ychwanegol hefyd yn cael eu cynnal, i dywys pobol o’r maes. Bydd un bws yn teithio i Nefyn, un i Borthmadog ac un i Gaernarfon, ac yn stopio mewn lleoliadau ar hyd y ffordd.
“Mae llawer o opsiynau ar gael, gyda bysiau ychwanegol a mannau pwrpasol ar gyfer rheini sy’n cael pas adref.
“Rydw i’n ddiolchgar dros ben i fusnesau lleol sydd wedi ein cefnogi i fedru darparu’r bysys ychwanegol,” ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig.