Elusennau yn galw am gefnogaeth i Huw Edwards
Mae elusennau iechyd meddwl wedi galw am gefnogaeth i'r darlledwr Huw Edwards, wedi i'w wraig ddatgelu ei fod yn cael triniaeth yn yr ysbyty.
Dywedodd cyfarwyddwr Mind Cymru, Susan O'Leary: "Mae'n bwysig fod unrhyw un sy'n profi problemau iechyd meddwl difrifol yn cael y lle i dderbyn y driniaeth mae nhw ei angen.
"Rydan ni'n deall y bydd y straeon newyddion yn effeithio pobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae Mind yma i gefnogi unrhyw un sydd angen help gyda'u iechyd meddwl."
Mae Huw Edwards yn lysgennad dros gangen Mind Llanelli.
Dywedodd mudiad Rethink Mental Illness y dylai "pawb oedd yn gysylltiedig a'r stori" dderbyn cefnogaeth.
Bydd pennaeth y BBC, Tim Davie, yn cael ei holi yn Senedd San Steffan yr wythnos nesaf am y modd y deliodd y gorfforaeth a'r ymchwiliad i Huw Edwards.
Bydd Mr Davie, y cadeirydd dros dro y Fonesig Elan Closs Stephens, a'r cyfarwyddwr polisi Clare Sumner yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cyfathrebu'r Arglwyddi ddydd Mawrth.
Mae cyn gyd-weithiwr i Huw Edwards yn ddweud ei fod yn "flin" ac yn teimlo fod y darlledwr wedi ei "adael i lawr" ar ôl yr honiadau yn ei erbyn.
Dywedodd Jon Sopel, fu'n cydweithio a Mr Edwards am rai blynyddoedd, fod adroddiadau yn y wasg wedi "troi yn hyll".
"Roedd wedi troi mewn i gystadleuaeth i weld pwy oedd yn gallu mynd fwyaf pell yn fwyaf cyflym," meddai wrth Good Morning Britain.
Dywedodd fod ei fod wedi siarad a Huw Edwards cyn iddo fynd i'r ysbyty, a'i fod yn "gandryll" gyda'r Sun a nad oedd yn hapus ag adroddiadau'r BBC chwaith.
'Pryder'
Dydd Mercher fe wnaeth gwraig Mr Edwards ei enwi fel y cyflwynydd sydd yn wynebu honiadau iddo dalu am luniau o natur rywiol.
Dywedodd Vicky Flind bod ei gŵr yn "dioddef o broblemau iechyd difrifol" ac yn "derbyn triniaeth yn yr ysbyty ac yn aros yno am y dyfodol agos.”
Dywedodd ei fod wedi bod yn “bum diwrnod hynod o anodd i’n teulu ni”.
“Rwy’n gwneud hyn yn bennaf oherwydd pryder am ei les meddyliol ac i amddiffyn ein plant,” meddai.
"Mae Huw yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol. Fel sydd eisoes wedi ei gofnodi, mae wedi cael triniaeth am iselder difrifol yn y blynyddoedd diwethaf.
“Mae digwyddiadau’r ychydig ddyddiau diwethaf wedi gwaethygu pethau’n fawr, ac mae wedi dioddef o bwl difrifol arall ac mae bellach yn derbyn gofal yn yr ysbyty.
“Unwaith y bydd yn ddigon da i wneud hynny, mae’n bwriadu ymateb i’r straeon sydd wedi’u cyhoeddi.”
Yn gynharach ddydd Mercher, daeth cyhoeddiad gan Heddlu'r Met yn dweud bod eu hymchwiliad i'r honiadau wedi dod i ben, heb unrhyw dystiolaeth fod trosedd wedi digwydd.
Mae'r BBC bellach wedi ail-ddechrau eu ymchwiliad eu hunain, gan 'barhau i fod yn ymwybodol o’n dyletswydd i ofalu am bawb sy'n gysylltiedig a'r mater.”
Yr honiadau
Fe wnaeth papur newydd The Sun honni fod y cyflwynydd BBC wedi talu person ifanc am luniau o natur rywiol, a hynny wedi dechrau pan oedd y person ifanc y 17 oed ar y pryd.
Yn ddiweddarach fe gysylltodd y person ifanc drwy gyfreithiwr gyda'r wasg i ddweud bod yr honiad yn "sbwriel".
Fe wnaeth ail berson honni wrth y BBC ddydd Mawrth fod y cyflwynydd wedi anfon negeseuon bygythiol ar ôl cysylltu ar ap dêtio.
Yn ôl adroddiad arall yn The Sun, mae person 23 oed yn honni fod y cyflwynydd wedi teithio ar draws Lundain i sir wahanol yn ystod y trydydd cyfnod clo i gwrdd yn ei fflat, ym mis Chwefror 2021.
Mae Huw Edwards hefyd wedi ei gyhuddo o anfon negeseuon amhriodol at weithwyr y BBC.
Yn ôl rhaglen Newsnight y BBC mae dau aelod o staff presennol ac un cyn aelod o staff yn honni bod Mr Edwards wedi cysylltu â nhw ar gyfryngau cymdeithasol, a bod y negeseuon wedi eu gwneud nhw i deimlo'n anghyfforddus a lletchwith.
Dywedodd dau o'r tri uchod eu bod yn teimlo na allent adrodd eu honiadau o ymddygiad amhriodol i reolwyr y BBC.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Rydym yn cyfathrebu gyda staff a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Rydym bob amser yn trin pryderon staff gyda gofal, a byddwn bob amser yn annog unrhyw aelod o staff i siarad â ni os oes ganddynt unrhyw bryderon."
Ymchwiliad
Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC fod yr achos yn parhau i fod yn gymhleth iawn ac y byddai'r ymchwiliad mewnol yn dilyn y broses briodol.
Dywedodd The Sun nad oedd yn bwriadu awgrymu bod Edwards wedi gwneud unrhyw beth troseddol ac na fydd yn cyhoeddi honiadau pellach amdano.