
Gemau’r Ynysoedd: Athletwyr Môn yn herio ynysoedd y byd yn Guernsey
Gemau’r Ynysoedd: Athletwyr Môn yn herio ynysoedd y byd yn Guernsey
Fe fydd pobl o Bermuda, Yr Ynys Las, Ynysoedd y Falkland - ac Ynys Môn - yn hedfan a hwylio drosodd i Guernsey y penwythnos hwn. Ond pam?
Oherwydd mai Guernsey yw cartref Gemau Rhyngwladol yr Ynysoedd 2023 - gemau aml-gamp sydd yn ymdebygu i’r Gemau Olympaidd neu Gemau’r Gymanwlad.
Mae’r gemau yn cael eu cynnal bob dwy flynedd ar gyfer ynysoedd ledled y byd.
Mae Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Faroe, Menorca, Gibraltar a'r Ynys Manaw hefyd ymhlith yr ynysoedd sydd yn cymryd rhan.
Ynys Môn yw’r unig ynys o Gymru sydd yn rhan o'r gymuned ryngwladol arbennig yma.
Ac mi fydd Môn Mam Cymru yn estyn croeso i athletwyr y byd yn 2027, ar ôl llwyddo i ennill yr hawl i gynnal y gemau ymhen pedair blynedd - ar ôl gemau Orkney yn 2025.
Mae’r tîm wedi bod yn rhan o’r gemau ers y rhai cyntaf yn 1985, ac eleni mi fydd 120 o athletwyr yn cymryd rhan mewn 11 o gampau.
Bydd seremoni agoriadol y gemau yn cael ei chynnal nos Sadwrn, gyda’r cystadlu yn cychwyn fore dydd Sul a gorffen ddydd Gwener.

'Teimlad prowd'
Y rhedwr Iolo Hughes, o Lanfechell, yw athletwr mwyaf llwyddiannus Ynys Môn yn hanes y gemau.
Wedi iddo ennill y fedal aur yn y ras 5000 medr i ddynion fel bachgen 16 oed, yng ngemau Bermuda yn 2013, fe enillodd fedal aur ac efydd yn y 1500m a 5000m yn 2015 yn Jersey, a medal efydd yn y 1500m Gibraltar yn 2017.
Mae Iolo wedi rasio dros Gymru a Phrydain yn y gorffennol, ond mae’n dweud fod cynrychioli’r ynys yn golygu rhywbeth arbennig iddo.
“Mae o’n deimlad prowd, achos ges i fy ngeni yma, tyfu i fyny yma a byw yma am y rhan fwya’ o fy mywyd, felly mae’n bleser i redeg dros Ynys Môn," meddai.
“‘Sa’m llawer o bobl yn gallu deud bod nhw di rhedeg a cynrychioli Ynys Môn, so dwi’n falch iawn bob tro dwi’n rhoi’r vest ymlaen.
“Mae o’n class, mae o rili fel mini Olympics.
“Mae gen chdi bob math o sports yna, dwi’n siwr bod 'na 14 o sports gwahanol yn cael eu cystadlu mewn wythnos, mae’n hectic yna!
“Mae ‘na bob math o bobol o bob gongl o’r byd – Bermuda a’r Cayman Islands, Falkland Islands, felly mae 'na bobl yn bob man a mae’n braf dod i nabod pobol o lefydd gwahanol.
“Dwi di ennill yn bob Games, felly dim pressure blwyddyn yma! Ond mae’n hwyl a dyna pam ‘da ni’n neud y sport ‘da ni’n neud. Da ni isho curo popeth fel competitors ac athletes ac ennill medalau.
“Dwi isho mynd yna, gwneud fy ngorau glas a thrio dod yn ôl i Ynys Môn efo dwy medal aur. Ond os di hynny ddim yn digwydd, swni’n hapus efo dwy fedal.”
‘Profiad anhygoel’
Mae cyfrifoldeb ar athletwyr i godi arian am gostau teithio a llety, ac mae aelodau’r tîm wedi bod yn cynnal digwyddiadau cymunedol a denu noddiant gan gwmnïoedd lleol dros y misoedd diwethaf i dalu eu ffordd.
Yn eu plith mae amddiffynnwr tîm pêl-droed merched yr ynys, Emma Roberts.
Yn chwarae dros glwb Amlwch yn ystod y tymor, mi fydd Emma yn cynrychioli’r ynys yn y gemau am y trydydd tro eleni.
“Mae’n lot o waith rili i godi arian," meddai. "‘Da ni di siarad efo cwmnïoedd lleol sydd eisiau helpu ni, lot o gwmnïoedd o Amlwch sydd wedi helpu fi rili.
“Dwi hefyd yn rhan o’r tîm Huddle efo’r FAW sydd yn gweithio efo genethod o 5 i 11 oed, so wnaethon ni neud sponsored disco i helpu hel pres. Mae’n waith ond dwi’n hapus rŵan bod yr arian i gyd efo’i gilydd."
Daeth y tîm yn ail yn y gemau diwethaf yn 2019, gan golli yn y rownd derfynol yn erbyn yr Ynys Manaw – felly mynd un gam ymhellach yw eu nod y tro hwn.
“Mae’r gemau yn brofiad anhygoel rili. Mae’r athletwyr o bob un o’r sports yn dod at ei gilydd i gwatchad a syportio’r ynys, mae o fatha Commonwealth Games bach," meddai Emma Roberts.
“Mae’n gyfle gwych i ni gyd. Dwi’n dod o le bach fel Amlwch lle does 'na’m llawer yn mynd ymlaen, a dwi’n cael trafeilio i lefydd gwahanol rownd y byd.
“Mae’n meddwl lot ac mae’n dda i ddangos i’r genethod bach sy’n dod i fyny a chwarae pêl-droed rŵan bod 'na gyfle i nhw cael bod yn prowd o Ynys Môn a bod yn rhan o'r tîm.
“Cyn pob gêm fydd y tîm yn leinio i fyny a canu’r anthem i gyd hefo’n gilydd. Mae’n cyfle gwych i sefyll yna efo’r gân yn mynd a pawb yn singing their hearts out!”
Lluniau: Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn