Ardaloedd Cymraeg 'mewn perygl o gael eu llethu gan fewnfudiad'

Google Street View
Mae ardaloedd Cymraeg yn sir Conwy mewn perygl o gael eu llethu gan fewnfudiad anferthol o bobol o ddinasoedd Lloegr, yn ôl asesiad newydd.
Mae'r asesiad, a gomisiynwyd gan Fenter Iaith Conwy, yn rhybuddio ei bod hi'n "hanfodol" i siaradwyr Cymraeg yn y sir a rhannau eraill o'r gogledd i gael y cyfle i weithio o'u cartrefi er mwyn diogelu Cymreictod cymunedau gwledig.
Yn ogystal ag edrych ar effeithiau penodol pandemig y coronafeirws, mae’r adroddiad yn cymharu’r gallu i siarad Cymraeg rhwng gwahanol grwpiau oedran a gwahanol rannau o’r sir.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google